Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya newydd
Published: 25/02/2022
Bydd terfyn cyflymder 20mya newydd yn cael ei gyflwyno dydd Llun, 28 Chwefror mewn rhai ardaloedd preswyl yn Sir y Fflint fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru i ostwng y terfyn cyflymder mewn ardaloedd preswyl o 30mya i 20mya.
Mae hyn yn cynnwys Bwcle, Drury, Burntwood, Alltami, New Brighton, Mynydd Isa a Bryn Baal yn dilyn cyfnod helaeth o ymgysylltu â chymunedau lleol ac ymgymryd â’r ymgynghoriad statudol.
Bydd cyflwyno terfynau cyflymder 20mya yn gwella diogelwch ar y ffyrdd i raddau helaeth mewn ardaloedd preswyl, yn ogystal ag annog dulliau teithio llesol a fydd yn ategu at ddymuniad y Cyngor i gael rhwydwaith cludiant cynaliadwy integredig carbon isel drwy’r Sir.
Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd Sir y Fflint, y Cynghorydd Glyn Banks, bod terfynau cyflymder is hefyd yn allweddol i strydoedd iachach.
“Mae tystiolaeth yn dangos cysylltiad amlwg rhwng cyflymder cerbydau a’r risg o anaf difrodol neu farwolaeth, yn arbennig pan fo plant neu ddefnyddwyr ffordd diamddiffyn yn y cwestiwn, felly mae gostwng y terfynau cyflymder yn allweddol i ffyrdd mwy diogel ac iach.
“Mae’r fenter ddiweddaraf hon yn allweddol i ddatblygiad rhwydwaith Teithio Llesol Sir y Fflint, sy’n anelu at wella seilwaith cerdded a seiclo ar draws y Sir dros y 15 mlynedd nesaf.”
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd:
"Bydd gwneud 20mya y terfyn cyflymder diofyn ar strydoedd prysur i gerddwyr ac mewn ardaloedd preswyl ledled Cymru yn helpu i leihau damweiniau, ac yn achub bywydau.
"Bwcle yw'r diweddaraf mewn nifer o gynlluniau rydym yn eu cyflwyno ledled Cymru i wneud ein strydoedd a'n cymunedau yn fwy diogel a chroesawgar i feicwyr a cherddwyr ac ar yr un pryd yn lleihau ein heffaith amgylcheddol."
Y setliadau eraill yng Nghymru yw’r Fenni, Canol Gogledd Caerdydd, Glan Hafren (Sir Fynwy), Llandudoch yn Sir Benfro, Cilfriw yng Nghastell-nedd Port Talbot, Saint-y-brid ym Mro Morgannwg a Gogledd Llanelli.