Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Strategaeth Pobl
Published: 11/11/2016
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo Strategaeth Pobl y Cyngor
2016-19 yn ei gyfarfod nesaf ar 15 Tachwedd.
Maer strategaeth newydd, sydd wedi cael ei ddatblygu yn erbyn cefndir o newid
sefydliadol cyflym a phwysau ariannol, yn dangos bod y Cyngor yn gyflogwr
modern a blaengar.
Maer strategaeth hon yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes wedii gyflawni yn
ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys:
· Datblygu cynllun Prentisiaeth
· Gweithredu gweithio ystwyth a hyblyg
· Rheoli Dogfennau Electronig (EDM) sydd wedi galluogi uno ffeiliau
staff AD, Cyflogau ac Addysg, creu tîm Adnoddau Dynol a Datblygu Trefniadaeth
cryf a chost-effeithiol
· Datblygu modiwlau e-ddysgu i gefnogi datblygiad Modelau Darparu
Gwasanaeth Amgen, arweinyddiaeth a rheolaeth.
Maer Cyngor yn dechrau ar gyfnod pellach o newid sylweddol, fel y disgrifir yn
y cynllun gwella. Bydd cael dealltwriaeth fanwl on gweithlu presennol a
gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yn ein galluogi i gydlynur gwaith o ddatblygu
cynlluniau gweithlu manwl i fynd ir afael âr bwlch rhwng y gweithlu presennol
ar hyn sydd angen ir gweithlu fod yn y dyfodol i gyflwyno gwasanaethau’r
dyfodol.
Maer strategaeth yn nodi pum amcan strategol allweddol:
· Cynllunio Gweithlur Dyfodol
· Datblygu Cynhwysedd y Gweithlu ac Arweinyddiaeth
· Rheoli Perfformiad
· Gwobrau a chydnabyddiaeth
· Galluogi Newid drwy Fodelau Amgen
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol:
“Er mwyn bod yn Gyngor Modern ac Effeithlon, mae arnom angen sefydliad syn
arloesol, yn hyblyg, yn gysylltiedig ac yn dryloyw, gyda materion pobl yn uchel
ar yr agenda. Bydd gweithlu ymrwymedig, llawn cymhelliant, hyblyg a
phroffesiynol yn cynnig gwasanaeth gwych, yn gallu bod yn gryf yn wyneb y
newidiadau sydd o’n blaenau a bod yn ddeinamig ac yn ymatebol i anghenion
newidiol ein trigolion a’n cwsmeriaid.”