Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Strategaeth Gaffael
Published: 11/11/2016
Ar ôl cymeradwyo rheolaur weithdrefn newydd ynglyn â sut mae caffael yn
digwydd, bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint adolygu Strategaeth Gaffael newydd
yn ei gyfarfod ar 15 Tachwedd.
Mae’r Cyngor eisoes yn cael gwerth da am arian o’i weithgarwch caffael a bydd y
strategaeth hon yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw ac yn creu cysylltiadau
cryfach rhwng gweithgarwch caffael a chyflawni blaenoriaethau gwella’r Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, yr Aelod Cabinet dros Reolaeth
Gorfforaethol:
“Yn ogystal â hyrwyddo contractau gyda busnesau lleol, nod y strategaeth yma
ydi cynyddu nifer y contractau syn cael eu rhoi i fentrau cymdeithasol ac
annog defnydd o gymalau manteision cymunedol. Mae’r strategaeth yma’n cynnwys
mesurau clir iawn a fydd yn dangos sut mae gwariant y Cyngor yn ychwanegu
gwerth at yr economi leol ac yn fanteisiol i’n cymunedau.
Mae’r Strategaeth Gaffael yn rhan bwysig iawn o Strategaeth Ariannol Tymor
Canolig y Cyngor ac felly fe fydd yn cefnogi datblygiadau pellach i wneud y
gorau o ddarpariaeth y gwasanaeth am y gost leiaf bosib.”