Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Setliad Dros Dro a Chyllideb Cronfar Cyngor
Published: 14/11/2016
Ar 15 Tachwedd bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried adroddiad ar
gyllideb cronfa’r Cyngor a’r setliad dros dro.
Mae Sir y Fflint yn gyngor effeithlon ac arloesol, ond mae hefyd yn gyngor a
ariennir yn isel ac felly dim ond ychydig o gyfleoedd a geir i bontior bwlch
cyllido drwy arloesi lleol.
Er gwaethaf hyn, mae Sir y Fflint yn perfformio’n gadarn o ran safon y
gwasanaethau lleol y maen darparu, gan ddangos rhagoriaeth mewn gwasanaethau
allweddol megis addysg a gofal cymdeithasol.
Cydnabyddir Sir y Fflint yn genedlaethol fel cyngor arloesol o ran canfod
atebion newydd sy’n gost effeithlon, yn gadarn ac yn gynaliadwy ar gyfer y
dyfodol.
Maer atebion hyn yn cynnwys sefydlu NEW Homes”, cwmni syn darparu cartrefi i
bobl leol, a SHARP (Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol), a arweiniodd at godi tai
cyngor newydd sbon yn y sir – sef y rhai cyntaf yng Nghymru ers cenhedlaeth.
Mae’r Cyngor hefyd wedi sicrhau dyfodol cyfleusterau hamdden megis pwll nofio
Cei Connah trwy sefydlu ateb rheoli yn y gymuned. Fodd bynnag, wrth i’r
cyfleoedd i arloesi leihau, felly hefyd yr arian sydd ar gael.
Mae tair rhan i’n strategaeth ariannu:
1. Y Cyngor yn cymryd cyfrifoldeb dros barhau i ddiwygio a moderneiddio
gwasanaethau lleol - mae gofyn i bob gwasanaeth, ac eithrio addysg a gofal
cymdeithasol, leihau eu cyllidebau 30% dros y tair blynedd nesaf.
2. Y Cyngor yn cymryd cyfrifoldeb dros ddefnyddio’r cyllid corfforaethol yn
ddarbodus.
3. Y Cyngor yn pennu disgwyliadau realistig o ran yr hyn y gellir ei ddisgwyl
gan Lywodraeth Cymru, ein prif ffynhonnell ariannu.
Mae cynghorau yng Nghymru yn ddibynnol iawn ar grant gan y llywodraeth i
ariannu’r hyn a wnânt. Yn fwy felly yng Nghymru nag yn Lloegr. Dyma pam, o fewn
ein strategaeth dair rhan, yr ydym ni’n galw am fwy o ryddid gan Lywodraeth
Cymru ir Cyngor fod yn entrepreneuraidd.
Maer Cyngor wedi cynghori’n flaenorol am fwlch amcangyfrifedig o £14.4
miliwn yn y gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18
Trwy gyfuniad o gynigion pellach i ddiwygio gwasanaethau, parhau â stiwardiaeth
ariannol effeithiol a gwell setliad grant dros dro mae’r bwlch hwn bellach wedi
gostwng i oddeutu £2 filiwn.
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton:
“Mae hwn yn gyfnod heriol i gynghorau lleol a Llywodraeth Cymru. Os ydym nin
mynd i lwyddo i ganfod ein ffordd drwy hyn efo’n gwasanaethau lleol hanfodol yn
dal yn un darn, yna mae ar gynghorau angen gweithion agos gydar llywodraeth -
a dyna’n union yr ydym nin mynd i wneud er mwyn dod o hyd i atebion ar y cyd.”
Ar hyn o bryd maer Cyngor yn cynnal cyfres o gyfarfodydd ymgysylltu âr
cyhoedd. Mae pedwar digwyddiad llwyddiannus eisoes wedi eu cynnal, ond mae yna
tri digwyddiad arall ar ôl ac rydym yn eich annog chi i’w mynychu. Y manylion
yw:
14 Tachwedd: Ysgol Gynradd Sirol Sandycroft
15 Tachwedd: Ysgol Gynradd Sirol Brychdyn
21 Tachwedd: Ysgol Caer Nant, Cei Connah
Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal o 6.30pm tan 8.30pm. Gallwch gofrestru
ar-lein ar neu drwy ffonio ein llinell gofrestru ar 01352 701701 rhwng 9am a
5pm, ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ceir crynodeb on Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar ein gwefan ar dudalen
Ein Sir y Fflint, Ein Dyfodol.
Maer strategaeth hon yn canolbwyntio ar 2017/2018 sef y flwyddyn ariannol
nesaf y mae arnom angen cynllunio ar ei chyfer. Yn yr un modd, rydym yn cadw
llygad ar 2018/2019 a thu hwnt ac yn cynllunio ymlaen llaw mewn ffordd gyfrifol
a chynaliadwy. Bydd y Cyngor yn cyhoeddi datganiadau pellach wrth i’r gyllideb
gael ei chwblhau - gan gynnwys yr angen am fwy o gyllid ar gyfer Sir y Fflint
fel rhan o ddiwygiad sector cyhoeddus a chyllid llywodraeth leol.