Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Gwasanaeth Bwyd
Published: 13/01/2022
Ddydd Mawrth 18 Ionawr bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo Cynllun Gwasanaeth Bwyd 21-22.
Mae’r Cynllun Gwasanaeth Bwyd yn nodi nodau ac amcanion y gwasanaeth ar gyfer y flwyddyn ariannol a sut y bydd y rhain yn cael eu cyflawni. Cafodd Cynllun 2021-22 ei roi o’r neilltu am gyfnod yn sgil pwysau’r pandemig ar y gwasanaeth.
Mae’r cynllun yn ymdrin â diogelwch bwyd (gorfodi diogelwch bwyd a deddfwriaeth hylendid bwyd ym mhob sefydliad bwyd yn y sir), safonau bwyd (gwirio sefydliadau a delio â chwynion) a bwyd anifeiliaid (ymweld ag eiddo bwyd anifeiliaid, darparu gwybodaeth delio â chwynion).
Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint:
“Trwy gymeradwyo Cynllun Gwasanaeth Bwyd eleni, bydd y Cabinet yn sicrhau bod y lefel uchel o ddiogelwch a hylendid bwyd sydd eisoes wedi'i sefydlu yn y sir yn parhau. Mae ein tîm Diogelwch a Safonau Bwyd yn gweithio’n arbennig o galed i sicrhau y gall preswylwyr Sir y Fflint fod â hyder yn lefel uchel yr hylendid bwyd. Mae’n rhaid i mi ychwanegu bod y tîm wedi gweld llwyddiannau arbennig iawn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys y rhai sydd wedi’u rhestru isod. Ar ran y Cabinet, hoffaf longyfarch bob un ohonoch chi am eich gwaith ardderchog, yn enwedig o ystyried y cyfnod heriol rydych chi wedi’i wynebu.”
Llwyddiannau allweddol 2020/21:
- Roedd ymrwymiad pob swyddog ar draws y gwasanaeth yn anhygoel a hynny ar adeg heriol a chyfnewidiol dros ben, a bu iddyn nhw chwarae rôl allweddol i helpu i olrhain cysylltiadau unigolion a oedd wedi derbyn profion Covid positif, gan helpu i leihau lledaeniad y feirws
- Roedd swyddogion bwyd wedi darparu cyngor i fusnesau wedi’u heffeithio gan reoliadau Covid i ddiogelu iechyd y cyhoedd a chwsmeriaid, yn ogystal â chynorthwyo busnesau bwyd lleol i barhau i fasnachu
- Symudodd swyddogion bwyd anifeiliaid a swyddogion cymwys i ddarparu cyngor ac ymgymryd â dyletswyddau gorfodi rheoliadau Covid, gan gynnal lefel is o waith bwyd i’w arolygu a chyngor i fusnesau
- Roedd yn rhaid i swyddogion symud o waith ymateb i Covid i waith bwyd ac yn ôl eto, yn ôl yr angen, a hynny ar fyr rybudd, er mwyn delio â gwaith rheoleiddio penodol yn ymwneud â chynnyrch neu fater hylendid bwyd arwyddocaol.