Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diweddariad ar Economi Sir y Fflint
Published: 13/01/2022
Ddydd Mawrth 18 Ionawr bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint gefnogi canfyddiadau adroddiad ynglyn ag economi Sir y Fflint.
Meddai’r Cyng. Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint:
“Mae busnesau sawl sector yn yr economi wedi wynebu cyfnod heriol iawn yn sgil effeithiau Brexit a phandemig Covid-19. Mae amhariadau ar fasnachu oherwydd Covid, problemau gyda'r gadwyn gyflenwi ac anawsterau wrth recriwtio staff oll wedi rhoi cadernid busnesau ar brawf.
“Er gwaethaf yr heriau y mae llawer o fusnesau yn eu hwynebu, o gymharu â rhannau eraill o Gymru mae economi Sir y Fflint wedi aros yn gadarn ar y cyfan ac wedi parhau i fod yn gystadleuol."
Mae anawsterau busnesau wrth recriwtio yn dangos nad yw nifer o bobl ifanc yn yr ardal yn manteisio ar y gyrfaoedd ansawdd uchel sydd ar gael iddyn nhw’n lleol ac felly mae angen gwneud rhagor o waith i godi proffil y cyfleoedd gwych sydd ar gael yn lleol ac yng ngogledd Cymru.
Er bod gan ganol trefi Sir y Fflint lai o siopau gwag ar y cyfan, mae’n rhaid i’r Cyngor weithio’n agos gyda busnesau canol tref i ddeall yr amodau yn well ac i sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu i ddiwallu eu hanghenion.
Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu’r angen i gynyddu argaeledd eiddo a safleoedd i helpu busnesau fuddsoddi yn y sir, gan fod llif cyson o ddiddordeb i fanteisio arno o hyd. Mae’r Cyngor yn bwriadu cyflwyno cynigion i Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU i foderneiddio unedau masnachol i ddenu rhagor o fuddsoddiadau mewn busnes.
Mae’r adroddiad yn crynhoi’r gwaith sy’n cael ei wneud ar draws y rhanbarth gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy i sicrhau adnoddau ychwanegol i helpu’r economi adfer yn dilyn y pandemig ac i osod y sylfeini ar gyfer llwyddiant i’r dyfodol.