Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diolch personol
Published: 07/11/2016
Yn ddiweddar ymwelodd y Gwir Anrh. Arglwydd Jones â swyddfeydd cwmni ffilm
lleol yn Bretton, Sir y Fflint.
Roedd yr Arglwydd Jones yno i ddiolch i berchnogion ‘Picture House Films’ yn
bersonol am y gwaith roeddynt wedi ei wneud wrth gynhyrchu ffilm ar gyfer y
Wobr Etifeddiaeth a ddangoswyd yn ddiweddar yn 10fed Seremoni Gwobrau Busnes
Sir y Fflint.
Cafodd y Wobr Etifeddiaeth ei chyflwyno gan Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith
Ken Skates ir Gwir Anrh. Arglwydd Barry Jones mewn cydnabyddiaeth o’i
wasanaeth gydol oes arbennig i fusnes ar economi a dywedodd Mr Skates:
“Ni allaf feddwl am unrhyw un gwell, neu fwy haeddiannol, i dderbyn y wobr
syn cydnabod gwaith diflino Arglwydd Barry Jones yn cefnogi twf economaidd ar
draws y rhanbarth. Mae wedi bod yn eiriolwr gwirioneddol ar gyfer anghenion a
chyfleoedd yn y rhan yma o Gymru, gan gefnogi buddsoddiad mewn busnes a thwf
swyddi ar bob cyfle, ac mae’n achub ar bob cyfle i hyrwyddo Sir y Fflint a
Gogledd Ddwyrain Cymru lle bynnag y maen mynd.”
Yn ystod yr ymweliad, dywedodd Yr Arglwydd Jones:
“Rwyf wrth fy modd wedi cael dod yma i ‘Picture House Films’ gan fy mod am
ddiolch iddynt i gyd yn bersonol am y gwaith gwych y maent wedi ei wneud yn
cynhyrchu ffilm mor gofiadwy a dwys. Mae’n bod â chymaint o dalent yn ein
hardal leol yn wirioneddol ysbrydoledig a hoffwn ddymuno pob llwyddiant pellach
i’r cwmni ar gyfer y dyfodol.”
Mae’r cwmni hefyd wedi gweithio ar ffilmiau eraill ar gyfer Arddangosfa Fusnes
Sir y Fflint a Chyngor Sir y Fflint.
Dywedodd Kate Oldfield, sydd gydar Arglwydd Jones ac Aelod Cabinet Cyngor Sir
y Fflint dros Ddatblygu Economaidd, y Cynghorydd Derek Butler yn y llun:
“Rydym yn falch iawn o groesawur Arglwydd Jones i’n swyddfeydd ‘Picture
House. Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau fod pob ffilm yn adrodd stori
gymhellgar - a gyda phwnc fel yr Arglwydd Jones, doedd hyn ddim yn anodd.
“Ei deyrnged bersonol yw’r ganmoliaeth orau y gallem ei dymuno; mae’n ddyn
ysbrydoledig ac rydym yn lwcus iawn o’i gael yma yn Sir y Fflint.”