Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor yn estyn croeso i arwyr y byd athletau
Published: 15/11/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cynnal digwyddiad dinesig arbennig er mwyn
cydnabod llwyddiannau arwyr Paralympaidd y sir.
Cafodd Sabrina Fortune, enillydd y fedal efydd yn y gystadleuaeth taflu maen
F20 a Beverley Jones a gymerodd ran yn y gystadleuaeth disgen F37 yn 2016 – y
5ed Gemau Paralympaidd yn olynol iddi gystadlu ynddynt - eu croesawu mewn
derbyniad arbennig gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Curtis, yr Arweinydd, y
Cynghorydd Aaron Shotton a’r Prif Weithredwr, Colin Everett, ar y cyd â
chynghorwyr a swyddogion eraill.
Ar ôl y derbyniad mynychodd yr athletwyr gyflwyniad cyn dechrau cyfarfod y
Cyngor Sir yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug pan roddwyd tusw o flodau i’r ddwy
ohonynt gyda phawb yn codi ar eu traed i’w cymeradwyo.
Meddai Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Peter Curtis:
“Mae’n anrhydedd enfawr cael croesawu’r athletwyr penigamp hyn i Neuadd y Sir
heddiw. Ar ran pawb yng Nghyngor Sir y Fflint, hoffwn ddiolch i’r ddwy ohonoch
am eich cyfraniad anhygoel i chwaraeon, nid yn unig yn genedlaethol ond hefyd
yn yr ardal leol.
Rydw i wrth fy modd fod Beverley, Sabrina a’u gwesteion wedi gallu ymuno â ni
heddiw. Dydy hi ddim ond yn iawn fod y sir sy’n gartref iddynt yn cydnabod eu
llwyddiannau ac rwy’n llongyfarch y ddwy ohonynt yn wresog ar eu llwyddiant.