Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cartref gofal newydd i Sir y Fflint
Published: 04/10/2021
Mae Cyngor Sir y Fflint yn datblygu cynigion i adeiladu cartref gofal o’r radd flaenaf i bobl hyn yn y Fflint, gan weithio ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Bydd y cyfleuster newydd a chyffrous hwn yn dod yn lle cartref gofal Croes Atti, sy’n hoff ac yn uchel ei barch gan lawer o bobl, ar Prince of Wales Avenue yn y Fflint. Bydd y cartref newydd yn cael ei adeiladu ar safle hen Ysbyty Cymunedol y Fflint ar Cornist Road.
Bydd y prosiect bron yn dyblu nifer y lleoedd sydd ar gael, gyda 25 o leoedd newydd.
Bydd y cartref newydd yn hwyluso darpariaeth Rhyddhau i Wella ac Asesu yn y sir. Mae hyn yn adeiladu ar agor 32 o leoedd ychwanegol yn llwyddiannus yn Marleyfield House ym Mwcle, lle’r ydym ni’n cefnogi unigolion i gael eu rhyddhau’n gyflym ac yn ddiogel o’r ysbyty ac ymlaen i’w cartref.
Bydd cartref newydd Croes Atti’n cynnig lleoliadau tymor hir a byr a hefyd yn helpu i adsefydlu pobl ar ôl aros am gyfnod yn yr ysbyty, i ailennyn eu hyder a’u hannibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain.
Rydym ni ar gamau cychwynnol datblygu ar hyn o bryd, a bydd y cam dylunio manwl, llawn i ddod cyn hir.
Yn enghraifft o waith caled yr awdurdod lleol i fynd i’r afael â’r pwysau sylweddol a’r sefyllfa fregus sydd i’w gweld yn y sector gofal ar draws y wlad ar hyn o bryd, mae’r prosiect yn barod i gychwyn ar y cam i edrych ar ei ymarferoldeb a bydd yn mynd drwy’r cam dylunio yn ystod 2022 ac mae disgwyl iddo fod wedi’i gwblhau yn gynnar yn 2024.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:
“Yn rhan o Gynllun y Cyngor i gael cydbwysedd rhwng ei ddarpariaeth gofal, rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r cynllun pwysig hwn ar gyfer y Fflint, wedi’i adeiladu ar safle’r hen ysbyty cymunedol. Mae gwaith i drosglwyddo’r safle i’r Cyngor Sir ar y gweill gyda’n partneriaid yn BIPBC, ac rwy’n hyderus y gwelwn ni gartref gofal newydd ardderchog yn y Fflint yn y 2-3 blynedd nesaf.”
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:
“Mae Cyngor Sir y Fflint yn arwain y gad o ran gwerthfawrogi pobl hyn. Gan adeiladu ar lwyddiant Marleyfield, bydd y datblygiad newydd arbennig yma’n dod yn lle cartref gofal hoff Croes Atti yn y Fflint.
“Dyma ailddatgan ymrwymiad y Cyngor i wasanaethau o safon, gan fuddsoddi arian mewn gwasanaethau allweddol. Rwy’n falch bod Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gefnogi ein trigolion mwyaf bregus.”
Dywedodd Dr Chris Stockport, Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol BIPBC:
“Bydd cartref gofal newydd Croes Atti’n ein helpu ni i gyflawni ein hymrwymiad i gefnogi pobl yn y gymuned, mor agos at adref â phosib’. Bydd y cyfleuster newydd hwn yn golygu y gallwn ni gefnogi pobl sy’n barod i ddychwelyd adref o’r ysbyty, ac i osgoi gorfod mynd i’r ysbyty yn y lle cyntaf.
“Diolch i’r bartneriaeth sy’n parhau rhyngom ni â Chyngor Sir y Fflint, byddwn yn gallu darparu mwy o gymorth i bobl yn ardal y Fflint, ac mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar ddatblygiad llwyddiannus gwasanaethau mwy dwys sydd eisoes yn cael eu cynnig yn Marleyfield House ym Mwcle.”
Llun yn dangos sut y gallai cartref gofal newydd Croes Atti edrych