Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyhoeddi Enillwyr yn 10fed pen-blwydd Gwobrau Busnes Sir y Fflint
Published: 24/10/2016
Mae Gwobrau Busnes Sir y Fflint, sydd bellach yn ei ddegfed flwyddyn, yn
cydnabod rhagoriaeth a pherfformiad rhagorol busnesau ar draws y sir.
Cafodd enillwyr y deg categori eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo tei du
arbennig yn Neuadd Sychdyn, Llaneurgain nos Wener 21 Hydref. Gyda chynulleidfa
o dros 240 o bobl fusnes dylanwadol, bu cwmnïau Sir y Fflint yn dathlu eu
llwyddiannau.
Roedd hin noson wych ar gyfer Leyla Edwards (KK Finefoods Plc) a enillodd dau
or prif wobrau - Person Busnes y Flwyddyn a Gwobr Entrepreneur.
Casglodd Ethan Davies (Electroimpact UK Ltd) Wobr Prentisiaeth y Flwyddyn.
Enillydd gwobr Busnes y Flwyddyn gyda dros 10 o weithwyr oedd Anwyl Group, tra
enillodd MCPC Systems y wobr Busnes y Flwyddyn gyda hyd at 10 o weithwyr.
Enillydd Gwobr Busnes I Weithio ynddi oedd DRB Group, Mancoed VM enillodd Gwbor
ir Cwmni Start-up mwyaf Mentrus ac enillodd Hannaman Material Handling Wobr
ir Busnes Mwyaf Gyfrifol yn Gymdeithasol. Aeth y Technoleg, Arloesi a Gwobr
Menter i LDF.
Yn ogystal, cyflwynwyd gwobr newydd, Gwobr Etifeddiaeth Busnes, gan y
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith Ken Skates, AC i Rt Hon.
Lord Barry Jones i gydnabod ei wasanaethau gydol oes ragorol i fusnes ar
economi.
Dywedodd Ken Skates:
“Mae’n bleser gen i fynychu Gwobrau Busnes Sir y Fflint eleni, ac mae’n
anrhydedd gen i gyflwyno’r wobr Etifeddiaeth newydd ir Arglwydd Barry Jones.
“Ni allaf feddwl am unrhyw un gwell, neun fwy haeddiannol, i dderbyn y wobr
syn cydnabod gwaith diflino Arglwydd Barry Jones yn cefnogi twf economaidd ar
draws y rhanbarth. Mae wedi bod yn eiriolwr gwirioneddol ar gyfer anghenion a
chyfleoedd yn y rhan yma o Gymru, gan gefnogi buddsoddiad mewn busnes a thwf
swyddi ar bob cyfle, ac mae’n achub ar bob cyfle i hyrwyddo Sir y Fflint a
Gogledd Ddwyrain Cymru lle bynnag y maen mynd.
“Mae’n addas felly y bydd wobr hon yn cael ei galw’n Wobr Etifeddiaeth Arglwydd
Barry Jones, a bydd yn cael ei chyflwyno bob blwyddyn i rywun sydd wedi gwneud
cyfraniad parhaol i dwf economaidd yn ardal Sir y Fflint.
Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu
Economaidd:
“Hoffwn longyfarch yr holl enillwyr, yn ein 10fed blwyddyn, roedd y
gystadleuaeth yn ffyrnig a chafodd y beirniaid amser go anodd yn ceisio dewis
enillydd ym mhob categori.
“Hoffwn hefyd ddiolch in noddwyr, AGS Security Systems, sydd wedi gwneud y
digwyddiad gwych hwn yn bosibl unwaith eto. Maen wych bod busnesau yn Sir y
Fflint yn gweld gwerth yn y gwobrau ac yn awyddus i gefnogi eu gilydd, a gydan
gilydd, byddwn yn mynd o nerth i nerth yn y blynyddoedd i ddod. “
Llongyfarchodd Jonathan Turner, Rheolwr Gyfarwyddwr AGS Security Systems, pawb
a gyrhaeddodd y rownd derfynol, gan ddweud, Maen rhoi boddhad mawr i AGS
Security Systems ddychwelyd ir llwyfan yn brif noddwr eto eleni. Nid yw
amrywiaeth a brwdfrydedd busnesau Sir y Fflint byth yn methu â fy syfrdanu ac
mae safon y busnes yn Sir y Fflint yn fy nghyffroi bob tro.
“Maer Gwobrau hyn yn helpu i gydnabod gwir dalent a pherfformiad rhagorol
sydd gennym ar garreg ein drws, mae angen i ni feddwl am y genhedlaeth nesaf ac
addysg ein cydweithwyr – mae pob un ohonom yn gyfrifol am greu entrepreneuriaid
y dyfodol.”
Dyma enillwyr a noddwyr y deg categori:
Gwobr Noddwr Buddugol
Prentisiaeth Coleg Cambria Ethan Davies (Electroimpact UK Ltd)
Gwobr Person Busnes
y Flwyddyn B2 Business Systems Leyla Edwards – KK Finefoods Plc
Gwobr Busnes y
Flwyddyn gyda dros
10 o weithwyr FfBB Anwyl Group
Gwobr Busnes y
Flwyddyn gyda hyd at
10 o weithwyr Edge Transport MCPC Systems
Gwobr Busnes I
Weithio ynddi Wagtail UK DRB Group
Gwobr Entrepreneur Pochin Leyla Edwards - KK Fine Foods Plc
Gwobr Etifeddiaeth Cyngor Sir y Fflint The Rt Hon. the Lord Jones
Gwbor ir Cwmni Start-up
mwyaf Mentrus DSG Mancoed VM
Gwobr ir Busnes Mwyaf
Gyfrifol yn
Gymdeithasol Wates Living Space Hannaman Material Handling
Technoleg, Arloesi a
Gwobr Menter Prifysgol Glyndwr LDF
I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Busnes Sir y Fflitn, ffoniwch For Kate
Catherall ar 01352 703221 neu ewch i www.wythnosfusnessiryfflint.co.uk