Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cystadleuaeth hamper Sir y Fflint - cyfle olaf i gystadlu!
Published: 06/08/2021
Mae’r fasged yn rhan o ymgyrch gan Gyngor Sir y Fflint i ddwyn sylw at gynhyrchwyr bwyd a diod y sir, a dangos i’r byd nad oes raid gadael Sir y Fflint i ganfod rai o’r cynhyrchion bwyd a diod mwyaf blasus.
Dewiswyd cynnwys y fasged leol yn dilyn ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol lle anogwyd trigolion Sir y Fflint i awgrymu pethau i’w cynnwys ynddi.
Yna ystyriwyd yr holl awgrymiadau gyda chymorth Naomi Spaven, sy’n rhedeg y cyfrif Instagram bwyd a diod Little Welsh Foodie, er mwyn dewis y chwech eitem derfynol.
Bydd enillwyr y gystadleuaeth yn derbyn y pethau canlynol:
• Siytni ffa dringo (runner bean chutney) o Mostyn Kitchen Garden
• Tarten jam o Fecws Hulsons yn Yr Wyddgrug
• Bara brown gan y pobydd Ian Purcell o Fynydd Isa
• Teisen crychion mafon (raspberry ripple) gan Sandra’s Cakes o Rosesmor
• Cyffug cartref (homemade fudge) o siop felysion Spaven’s yn Yr Wyddgrug
• Ysgytlaeth (milkshakes) o Laethdy Mynydd Mostyn Dairy yn Nhrelogan.
Mae’r gystadleuaeth i ennill y fasged ddelfrydol yn agored tan 11.59 ddydd Gwener 6 Awst - HEDDIW! Er mwyn i’ch enw fod yn yr het rhaid dilyn cyfrifon Archwilio Sir y Fflint / Explore Flintshire; dangos eich bod yn ‘hoffi’’r post am y gystadleuaeth (trwy glicio ‘like’) a rhannu neu dagio’r post i hyd at dri ffrind.
Bydd tair basged yn cael eu cynhyrchu fel rhan o’r ymgyrch a gofynnir i’r enillwyr gasglu eu gwobr o Lesters Farm Shop ym Mwcle.
Mae rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth ar gael yng nghyfrifon Archwilio Sir y Fflint / Explore Flintshire ar Instagram (@explore_flintshire) a Facebook (@exploreflintshire).