Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Cyngor yn datblygu dyfodol pobl drwy wneud buddsoddiad mawr mewn tai
Published: 25/10/2016
Mae’r datblygwr cenedlaethol, Wates Residential, wedi rhoi hwb i yrfaoedd
ceiswyr swyddi lleol fel rhan o raglen Cyngor Sir y Fflint i adeiladu 500 o
gartrefi newydd sbon ledled y sir.
Maer fenter hyfforddi wedi rhoi cyfle i 11 o bobl leol gymryd rhan yn rhaglen
genedlaethol ‘Building Futures’ Wates, gan nodi milfed cofrestriad y cwrs
hyfforddi dwys sy’n para pythefnos.
Cafodd ymgeiswyr eu recriwtio drwy Raglen Esgyn Llywodraeth Cymru a reolir yn
Sir y Fflint gan Gymunedau’n Gyntaf ac sy’n gweithio gyda phobl sy’n wynebu’r
rhwystrau mwyaf i gael eu cyflogi ac sydd wedi bod allan o waith am chwe mis
neu fwy.
Cynhelir y rhaglen hyfforddi yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ac mae’n
cynnwys sesiynau masnach sgiliau adeiladu, gan gynnwys gwaith coed, plymio a
theilsio, yn ogystal â gweithdai CV a chyfweliad gyda Wates Residential ai
bartneriaid yn y gadwyn gyflenwi. Derbyniodd bob ymgeisydd dystysgrif mewn
seremoni wobrwyo yn Siambr Cyngor Tref y Fflint.
Yn ystod y cwrs ymunodd yr ymgeiswyr â Wates hefyd ar safle hen Ysgol Custom
House yng Nghei Connah ble maer datblygwr yn adeiladur cartrefi cyntaf o dan
Bartneriaeth Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor (SHARP).
Mae darparu ‘Building Futures’ yn ffurfio rhan o rôl Wates Residential fel
datblygwr arweiniol ar gyfer SHARP, a fydd yn gweld 500 o gartrefi newydd yn
cael eu creu ledled Sir y Fflint dros y pum mlynedd nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
“Mae Cyngor Sir y Fflint yn hwyluso mwy o brentisiaethau newydd yn y sir, yn
arbennig ym maes adeiladu. Mae adeiladu mwy o dai wedi bod yn flaenoriaeth i
ni dros y pedair blynedd diwethaf – gan gynyddu buddion prosiectau cyfalaf
megis ein rhaglenni tai lle bydd £100m yn cael ei fuddsoddi dros y 5 mlynedd
nesaf. Rydym yn gweithio gyda Wates i ddarparu’r rhaglen hon – y cynllun tai
cyngor newydd cyntaf mewn cenhedlaeth.”
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor
Sir y Fflint, a gyflwynodd y gwobrau:
“Ar ran Cyngor Sir y Fflint, hoffwn ddiolch i bob un ohonoch am gymryd y cam
cyntaf a chwblhau’r rhaglen hon. Rydych i gyd wedi bod yn bresennol bob dydd
ac wedi cyflawnir cymwysterau. Mae angen pobl fel chi arnom ac mae llawer o
gyfleoedd ar gael i chi ddatblygu’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni hyd yma. Chi
yw’r arloeswyr – bydd mwy o gyrsiau fel hyn yn cael eu cynnal yn y dyfodol i
bobl yn yr ardal sydd naill ai’n ddi-waith neu sy’n dymuno newid gyrfa.”
Dywedodd Lee Sale, Cyfarwyddwr Busnes, Wates Residential: “Drwy SHARP, mae
Cyngor Sir y Fflint yn gosod y safon ar gyfer buddsoddiad mawr mewn tai a rhan
fawr o hyn yw ehangder y cyfleoedd y maen ei greu i bobl leol.
“Fel partner datblygu’r cyngor rydym wedi bod yn gweithio’n agos dros y
flwyddyn ddiwethaf i nodi’r ffyrdd y gallwn gael effaith bositif ar y sir ac
mae darparu ‘Building Futures’ ar y cyd yn un enghraifft on hymdrechion i
gyflawnir ymrwymiad hwn.”
Cafodd Wates ei filfed cofrestriad yn ‘Building Futures’ drwy fenter hyfforddi
Sir y Fflint ers lansior rhaglen flaenllaw yn 2005. Caiff ei achredu gan y
Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCCh). Mae ‘Building Futures’ yn rhoi
cymhwyster FfCCh Lefel 1 mewn Crefftau Adeiladu a chofrestriad CSCS i ymgeiswyr
i’w helpu i sicrhau hyfforddiant a phrofiad gwaith ar safleoedd adeiladu yn y
dyfodol.
Llun: Yr 11 ymgeisydd llwyddiannus gyda Su Pickerill, Rheolwr Buddsoddiad
Cymunedol ar gyfer Grwp Wates (yn sefyll ar y dde) ac yn eistedd or chwith ir
dde: Mick Cunningham – Wates, Debbie Barker – Mentor Esgyn, Nia Parry -
Cymunedau yn Gyntaf, Cyngh. Derek Butler, Cyngh. Aaron Shotton a Darren
Eccleston, Cyn Gyfarwyddwr Adeiladu yn Wates Residential