Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyflwyniad Prosiect Cyfnewid Ieuenctid Japan 2016
Published: 02/11/2016
Rhoddodd chwech o fyfyrwyr Sir y Fflint a deithiodd i Japan ar gyfer Prosiect
Cyfnewid Ieuenctid Optec Sir y Fflint 2016 gyflwyniad disglair ou profiadau.
Yn ystod Noson Gyflwyno a gynhaliwyd gan y Cyng. Peter Curtis, Cadeirydd Cyngor
Sir y Fflint, fe siaradodd y myfyrwyr am eu profiadau i gynulleidfa o fyfyrwyr
eraill sy’n ystyried gwneud cais am le ar daith gyfnewid 2017.
Aeth Kerina Perhat, Cameron Gemmill, Olivia Andringa, Ruth Stubbs, Lola Seddon
a Megan Roberts i Japan am bythefnos ddiwedd mis Gorffennaf gan aros efo
teuluoedd yn nhrefi Murata, Kawasaki a Zao. Bu iddyn nhw sôn am eu profiadau o
fywyd pob dydd yn Japan, gan gynnwys byw efo teulu Japaneaidd, ac am y bwydydd
y bu iddyn nhw flasu a’r llefydd y bu iddyn nhw ymweld.
Bu iddyn nhw hefyd sôn am groesawu eu cyfeillion o Japan i Sir y Fflint a’u
haddysgu am ddiwylliant Cymru, ac am y cyfeillgarwch a grëwyd yn ystod y
prosiect cyfnewid pedair wythnos.
Meddai’r Cyng. Peter Curtis, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint:
“Maer cysylltiadau sydd wedi eu meithrin drwyr prosiect cyfnewid hwn wedi
rhoi cyfle ir ddwy wlad ddod at ei gilydd i gyfnewid syniadau ac i ddysgu am
fywyd a diwylliant mewn gwlad arall. Maer prosiect cyfnewid ieuenctid wedi bod
yn llwyddiant ysgubol i ddatblygu dealltwriaeth a goddefgarwch, yn enwedig o
ran y genhedlaeth iau, ac mae hynny’n mynd i fod o fudd i gysylltiadau
rhyngwladol yn y dyfodol.”
Meddai’r Cyng. Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y
Fflint:
“Dros y blynyddoedd diwethaf mae llawer o bobl ifanc wedi mwynhau ac elwa ar y
profiadau a ddarperir drwy Brosiect Cyfnewid Ieuenctid Japan Optec Sir y
Fflint, ac rydw i’n annog pobl eraill i ddysgu mwy am y rhaglen gyffrous hon a
sut i gymryd rhan ynddi.”
Dangosodd y myfyrwyr luniau ou hymweliadau â Tokyo, beddrodau, mannau o
harddwch naturiol a lluniau eraill o’u hanturiaethau niferus, gan gynnwys
gwneud papur traddodiadol a mynychu gwyliau.
Cytunodd y rhieni a groesawodd fyfyrwyr Japaneaidd iw cartrefi fod y profiad
hwn yn brofiad unwaith mewn oes ac maen nhwn argymell y rhaglen i unrhyw
deulu arall sydd â phlentyn efo diddordeb mewn gwneud cais ar gyfer prosiect
cyfnewid 2017.
Maer prosiect cyfnewid wedi ei gydlynu gan Gyngor Sir y Fflint ac yn agored i
bob myfyriwr sy’n 16-18 oed ar 1 Medi 2016 ac sy’n derbyn addysg lawn amser
mewn ysgol neu goleg yn Sir y Fflint.
Mae’n rhaid dychwelyd ceisiadau ar gyfer prosiect cyfnewid 2017 erbyn dydd Llun
21 Tachwedd. Am ragor o wybodaeth neu ffurflenni cais cysylltwch â Karen Jones,
Cydlynydd Prosiect Cyfnewid Ieuenctid Japan, ar 07759295984 neu
karenjones@flintshire.gov.uk.
Y Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Curtis a’r Consort, Mrs Jennifer Curtis gyda
fyfyrwyr Sir y Fflint