Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor yn cyhoeddi eu partneriaeth tymor hir i gyflenwi fflyd cerbydau
Published: 20/10/2016
Yn dilyn ymarfer caffael manwl, mae Cyngor Sir Y Fflint wedi mynd i
bartneriaeth 7 mlynedd gyda Essential Fleet Services i gyflenwi a chynnal pob
un o’i 300 neu fwy o fflyd cerbydau.
Bydd y trefniant newydd yn golygu y bydd Essential Fleet Services yn darparu
cyllid, rheoli fflyd a gwasanaeth cynnal llawn ar gyfer y fflyd cerbydau cyfan
y Cyngor o’r depo’r Cyngor yn Alltami yn Sir y Fflint.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros
yr Amgylchedd:
“Bydd y trefniant newydd yn galluogi’r Cyngor i fanteisio ar bartneriaeth gyda
chyflenwr fflyd brofiadol a fydd yn dod ag arbedion costau ac effeithlonrwydd
newydd i’r gwasanaeth yn ogystal â darparu fflyd cerbydau gwell a modern. Bydd
yn sicrhau y bydd gennym y cerbydau cywir ar yr amser cywir i ddarparu’r
gwasanaethau rheng flaen hanfodol y mae ein preswylwyr yn y Sir yn dibynnu
arnynt, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’n partner newydd yn ystod y
blynyddoedd nesaf.”
Dywedodd Ed Hummel, Cyfarwyddwr Gwerthiant yn Essential Fleet Services: “Cyngor
Sir Y Fflint yw un o’n cwsmeriaid mwyaf bellach, ac rydym yn falch iawn o gael
gweithio gydag Awdurdod Lleol sydd mor flaengar. Mae’r cytundeb y bartneriaeth
newydd hon o’r raddfa debyg i’n partneriaeth gyda Chyngor Sir Swydd Lincoln yr
ydym wedi bod yn ei gynnal ers dros 40 mlynedd, a gobeithiwn y bydd hyn yn
ddechreuad o berthynas tymor hir tebyg gyda’r tîm yn Sir Y Fflint.”
Mae Essential Fleet Services yn gwmni hurio a phrydlesu contract cenedlaethol
sydd wedi ffocysu ar gronfa cerbyd masnachol arbenigol, rhent a chynhaliaeth
tymor byr. Maent yn gweithredu rhwydwaith mewnol o 15 gweithdy wedi eu cefnogi
gan seilwaith cenedlaethol o ganolfannau gwasanaeth partner.
Mae Essential Fleet Services yn cyflenwi cerbydau arbenigol i dros 40 o
gynghorau yn y DU ar draws y gwasanaeth sector cyhoeddus, ac mae ganddynt
ledaeniad gwasgaredig o gleientiaid sector preifat yn y sectorau cyfleustodau.