Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Cyngor yn codi ymwybyddiaeth o Atal Caethwasiaeth
Published: 20/10/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi nodi Diwrnod Atal Caethwasiaeth 2016 mewn cyfarfod
diweddar y Cyngor.
Gwnaeth y Cynghorwyr Christine Jones a Billy Mullin, y ddau yn aelodaur Panel
Diogelu Corfforaethol, ddarllen datganiad ar y cyd yn ystod y cyfarfod or
Cyngor Llawn ar 19 Hydref i godi ymwybyddiaeth o faterion caethwasiaeth a
cham-fanteisio yn y byd modern.
Mae dydd Mawrth 18 Hydref yn Ddiwrnod Atal Caethwasiaeth. Maer dyddiad hwn yn
cyd-daro â 10fed Diwrnod Gwrth-Fasnachu yr Undeb Ewropeaidd.
Maer datganiad yn darllen:
“Maen destun pryder mawr ir Cyngor hwn, er gwaethaf diddymur fasnach mewn
caethweision dros yr Iwerydd dros 200 mlynedd yn ôl, fod caethwasiaeth modern
yn dal i fodoli yn y DU, a thramor, heddiw. Mae masnachu mewn pobl a
cham-fanteisio yn fater pwysig, gyda phlant, menywod a dynion yn dioddef
cam-drin ofnadwy. Maer Cyngor yn annog preswylwyr Sir y Fflint a thu hwnt i
fod yn rhagweithiol yn ein brwydr yn ei erbyn, gan fod hwn yn fater syn peri
pryder i ni i gyd.”
Crëwyd Diwrnod Atal Caethwasiaeth i godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern
ac i ysbrydolir llywodraeth, busnesau ac unigolion i’w ddileu.
Gellir cael mwy o wybodaeth ar wefannau hyn.
www.antislaveryday.com
http://gov.wales/topics/people-and-communities/communities/safety/anti-slavery/?
skip=1&lang=cy