Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Lliwgar a Llachar Ddydd a Nos
Published: 14/10/2016
‘Byddwch yn ddiogel yn y tywyllwch’ yw’r neges glir gan dîm Diogelwch ar y
Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint wrth ir gaeaf agosáu.
Er bod rhai o ffyrdd mwyaf diogel y byd yn y DU, yn anffodus, cafodd 249 o
gerddwyr a 138 o feicwyr eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru yn
2014. Maen rhaid i bawb gyfranogi i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel.
Mae’r tîm yn atgoffa cerddwyr, rhedwyr, beicwyr a beicwyr modur ei bod yn
bwysig bod modd i yrwyr eu gweld, yn enwedig yr adeg hon o’r flwyddyn.
Dyma ychydig o gyngor cyffredinol:
· Os ydych yn gwisgo dillad tywyll, cariwch fag siopa gwyn i wella gwelededd
neu gallech brynu bandiau braich syn fflachio ac ategolion addas eraill.
· Gallai cario eich ffôn gyda’r sgrin wedi’i goleuo tuag at y gyrwyr sy’n
teithio tuag atoch eu cynorthwyo i’ch gweld yn y tywyllwch, yn enwedig mewn
ardaloedd gwledig neu ardaloedd heb lawer o olau.
· Ar gyfer beicwyr, os ydych chi’n beicio fin nos, maen rhaid i chi osod golau
gwyn ar y blaen a golau coch ar y cefn. Mae’n rhaid i chi gael adlewyrchydd
coch ar y cefn ac adlewyrchyddion oren ar y pedalau. Bydd adlewyrchyddion
blaen gwyn ac adlewyrchyddion ar y sbôcs yn eich helpu i gael eich gweld hefyd.
· Os ydych chi’n gyrru cerbyd, gyrrwch ar gyflymder addas a rhoi digonedd o le
i feicwyr, a cherddwyr os nad oes llwybr troed, wrth i chi eu goddiweddyd.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros
yr Amgylchedd:
“Mae gan bawb sy’n defnyddio’r ffordd gyfrifoldeb dros rannu’r lle ar y ffordd
yn ddiogel. Sicrhewch fod modd i ddefnyddwyr eraill ar y ffordd eich gweld, ac
mae hyn yn hanfodol yn ystod adeg yma’r flwyddyn pan mae’r golau’n wael a gall
gwelededd newid mewn eiliadau oherwydd y tywydd.”