Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Datblygiad tai newydd yn gweithio gyda busnesau lleol
Published: 14/10/2016
Mae Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol Cyngor Sir y Fflint yn cael effaith
gadarnhaol ar fusnesau bach lleol yn y sir.
Mae’r rhaglen yn adeiladu tai cyngor a thai fforddiadwy newydd ar draws Sir y
Fflint.
Mae’r contractwr a benodwyd gan y Cyngor, Wates Living Space, yn cynnal
digwyddiad fydd yn darparu cyfle i fusnesau bach lleol ganfod mwy am y
datblygiadau tai newydd hyn gyda’r nod o gael eu cyflogi fel isgontractwyr.
Mae croeso i’r holl fusnesau bach lleol sy’n ymwneud â’r diwydiant adeiladu ac
sydd wedi’u lleoli yn Sir y Fflint ymweld â Swyddfa Safle Wates yn y Walks
(oddi ar Ffordd Caer), y Fflint ddydd Llun 24 Hydref 2016 rhwng 9am a 6pm i
gael rhagor o wybodaeth. Estynnir gwahoddiad i’r holl feysydd adeiladu gan
gynnwys penseiri, peintwyr ac addurnwyr, tirlunwyr, gosodwyr brics a
chontractwyr eraill.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
“Mae nifer o fusnesau lleol wedi elwa o weithio gyda ni eisoes, o ganlyniad i’r
bartneriaeth lwyddiannus rhwng y Cyngor a Wates. Mae cam nesaf ein rhaglen
SHARP yn rhoi cyfleoedd i fusnesau lleol eraill gymryd mantais o hyn, waeth pa
mor fawr ydyn nhw.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint:
“Yn ogystal â darparu tai fforddiadwy o ansawdd, rydym yn awyddus i gynhyrchu
cyfleoedd cyflogaeth drwy ddefnyddio busnesau lleol fel rhan o gam adeiladu’r
Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol. Byddwn yn annog busnesau bach yn y
diwydiant adeiladu i fynychu’r digwyddiad hwn i gael rhagor o wybodaeth ac i
weld sut y gallant gyfranogi.