Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Parcio o gwmpas ysgolion
Published: 11/10/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint yn ymchwilio i fesurau i wella diogelwch defnyddwyr y
ffyrdd yn yr ardaloedd o gwmpas ysgolion, yn enwedig lle mae pryderon ynghylch
diogelwch yn cael eu creu gan gerbydau wedi parcio. Maer mesurau yn dod fel
rhan o ymrwymiad yr awdurdod i wella diogelwch defnyddwyr ffyrdd mwyaf
diamddiffyn Sir y Fflint. Maer Cyngor yn bwriadu cyflwyno cais i Lywodraeth
Cymru am gyllid i gefnogi mesurau diogelwch ar y ffyrdd peilot y tu allan i
nifer o ysgolion yn y Sir yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
“Diogelwch ar y Ffyrdd tu allan i ysgolion yw un on blaenoriaethau allweddol a
bydd y cynigion hyn yn helpu i sicrhau diogelwch plant ysgol yn y sir, ac
edrychaf ymlaen at ganlyniad llwyddiannus ir cais.”