Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwyddiant 10fed pen-blwydd Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy
Published: 07/10/2016
Cafodd 10fed Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy, syn ymestyn ar hyd yr arfordir yng
Nghymru ac yn Lloegr, ei ganmol fel llwyddiant mawr gan Geidwaid Sir y Fflint
ar cymunedau arfordirol.
Daeth grwpiau o bob rhan o Orllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru at ei gilydd i
nodir achlysur.
Roedd digwyddiad blynyddol Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy, a drefnir gan Gyngor Sir y
Fflint, Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chyngor Caer, Asiantaeth yr Amgylchedd,
Cadwch Gymru’n Daclus a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn fwy ac yn well nag erioed
ar gyfer ei ben-blwydd yn 10 oed.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros
yr Amgylchedd:
Roedd Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy eleni yn llwyddiant ysgubol a hoffwn ddiolch i
bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith caled o wneud y cyfan yn bosibl.” Maen
enghraifft go iawn o weithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus ac rwyf wrth fy
modd o fod yn rhan o hyn. Roedd yn ymdrech wych gan bawb a gymerodd rhan.
Cymerodd gannoedd o wirfoddolwyr o ysgolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau a
busnesau ran yn yr wythnos o ddigwyddiadau o ddydd Mawrth 13 i ddydd Sul 18
Medi i lanhau a gwella dalgylch y Ddyfrdwy.
Canlyniad y gwaith gwych a wnaed yn ystod yr wythnos, ar hyd yr arfordir o
Brestatyn i Gaer, yw:
· Casglwyd 272 bag o sbwriel
· Plannwyd dros 10,000 o fylbiau
· Symudwyd 40 teiar
· Paentiwyd wyth mainc
· Nodwyd 2 fater gwastraff mawr yn ogystal â sawl risg llygredd llai.
Dywedodd Ceidwad Sir y Fflint, Tim Johnson:
“Roedd gennym wirfoddolwyr o McDonalds, Sgowtiaid Treffynnon, Kingspan,
Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, Ysgol Uwchradd Cei Connah,
Coleg Llysfasi, Groundworks, Sustrans, Airbus a llawer mwy. Ni fyddai’r
digwyddiad hwn yn llwyddiant heb y gefnogaeth wych yr ydym yn ei derbyn. Eleni
cafwyd cyfranogaeth newydd gan Warwick Chemicals, Toyota a’r sefydliad –
University of the 3rd Age. Mae hyn yn dangos fod y digwyddiad yn parhau i dyfu
a gwella.
Gweithiodd 120 o wirfoddolwyr o Tesco ar hyd a lled chwe sir - Sir y Fflint,
Caer, Sir Ddinbych, Wrecsam, Swydd Amwythig, Gwynedd - a gosod llwybr troed
newydd, clirio nant, plannu bylbiau, codi sbwriel a chlirio nifer fawr o
blanhigion rhododendron.
Cynhaliwyd dathliad arbennig i nodi 10fed pen-blwydd y digwyddiad ym Mharc
Edgar’s Field yn Handbridge, Caer ddydd Sadwrn,17 Medi, yn cynnwys
gweithgareddau a stondinau oedd yn gysylltiedig âr afon ai chymunedau, yn y
gorffennol ar presennol. Cefnogwyd y digwyddiad gan nawdd gan Kingspan,
Presthaven Sands, Abakhan a fan hufen iâ Rays Whippy.
Mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol ers 2007.
Dechreuodd y syniad gyntaf ar draeth Talacre pan benderfynodd Gwasanaeth Cefn
Gwlad Sir y Fflint a’r partneriaid BHP Billiton, Presthaven Sands, Clwb Traeth
Talacre, y gymuned leol a Chyfoeth Naturiol Cymru gynnal arolwg or traeth i
helpu tynnu sylw at sbwriel morol ar niwed y gall ei achosi. Ers hynny, mae
Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref
Sirol Wrecsam, Cyngor Bwrdeistref Cilgwri, Asiantaeth yr Amgylchedd a Pharc
Cenedlaethol Eryri, yn ogystal â llawer o wirfoddolwyr a busnesau lleol eraill
- gan gynnwys Airbus, Kingspan a Kimberley Clark - hefyd wedi cymryd rhan ac
maer digwyddiad wedi mynd o nerth i nerth.
Crëwyd fideo i ddathlu 10 mlynedd o gynnal y digwyddiad hwn y gellir ei ganfod
ar http://bit.ly/big-dee-HD - (fersiwn ansawdd uchel) neu
http://bit.ly/big-dee-tablet - (HD llawn ond ffeil llai)
Os hoffai unrhyw unigolion, cwmnïau, grwpiau neu sefydliadau gymryd rhan y
flwyddyn nesaf yna cysylltwch â Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint ar 01352
703900.