Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
10fed Wythnos Fusnes Sir y Fflint yn llwyddiant ysgubol
Published: 07/10/2016
Mae digwyddiad busnes blaenllaw Cyngor Sir y Fflint, Wythnos Fusnes Sir y
Fflint, sydd bellach yn ei 10fed flwyddyn, wedi ei ddisgrifio fel llwyddiant
ysgubol.
Mae’r digwyddiad, mewn cydweithrediad ag AGS Security Systems a Westbridge
Furniture Designs, yn un o’r digwyddiadau pwysicaf o’i fath yn yr ardal, gan
ddenu dros 2,000 o fusnesau’n rheolaidd. Maen cefnogir gymuned fusnes yn y
sir ac, yn gynyddol, y rhanbarth ehangach, i hyrwyddo eu cwmnïau, i ddatblygu
cyfleoedd masnachu ac i godi proffil yr ardal fel lle i fuddsoddi ynddo.
Dymar drydedd flwyddyn ir digwyddiad gael ei arwain gan y Gwir Anrhydeddus
Arglwydd Barry Jones, sydd yn Llywydd Wythnos Fusnes Sir y Fflint, yn ogystal â
Llywydd Cynghrair Merswy a Dyfrdwy. Mae gan yr Arglwydd Jones brofiad enfawr o
weithio i helpu diwydiant yng Nghymru a Glannau Dyfrdwy.
Mae uchafbwyntiaur rhaglen yn cynnwys yr Arddangosfa Fusnes Rhanbarthol,
digwyddiad Cyflogaeth a Gwybodaeth, noson Swyddi a Sgiliau Rhanbarthol;
seminarau Economi ac Uchelgais a digwyddiad Rhwydwaith Twristiaeth - yn cwmpasu
pob agwedd ar yr economi lleol bywiog.
Agorodd yr Arglwydd Jones yr arddangosfa a siaradodd yn frwd am y digwyddiad:
“Mae’n anrhydedd mawr, fel gwladgarwr lleol, i fod yma i ddathlu llwyddiant 10
mlynedd Wythnos Fusnes Sir y Fflint – hwn yw’r digwyddiad orau o’r fath yng
Nghymru, a Sir Y Fflint yw’r sir a weinyddir ac arweinir orau yng Nghymru.
Mae’n rhaid i mi sôn am y Cynghorydd Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu
Economaidd sydd ag ysbryd anorchfygol a dyfalbarhad, a’r Prif Swyddog dros
Gymuned a Menter, Clare Budden sydd yn benderfynol a chraff.
“Mae’r perthnasau a chynghreiriau sydd wedi eu datblygu dros y 10 mlynedd
diwethaf, a’r twf busnes newydd a’r potensial mawr i allforio yr ydym wedi ei
weld yn datblygu wedi bod yn destament i’r ysbryd entrepreneuraidd sy’n
gweithio’n galed yn y rhanbarth. Bydd yr ysbryd hwn yn ein rhoi mewn lle da
fel mae’r Cynghrair Merwy a Dyfrdwy yn parhau i weithio gyda’n partneriaid yng
Nghymru a dros y ffin yn Lloegr. Rydym yn cyfarch Vauxhall, Toyota ac Airbus,
ond mae diolch i chi am ein hadferiad ‘steil phoenix’ - y Busnesau bach a
chanolig, entrepreneuriaid, ymgynghorwyr, cludwyr, gan enwi dim ond ychydig.
Eleni, ymfalchïodd yr Arddangosfa am gael dros 60 o arddangoswyr a dros 800 o
gynrychiolwyr yn ymweld âr stondinau yn ystod y dydd.
Un or arddangoswyr sy’n ôl am y drydedd flwyddyn yw Natalie Wood, Rheolwr
Gyfarwyddwr Letterbox Recruiting, a adleisiodd lawer o safbwyntiau’r
arddangoswyr drwy ddweud:
“Gan fod gennym swyddfeydd ar draws Gogledd Cymru, mae digwyddiadau fel hyn yn
ddefnyddiol iawn ar gyfer rhwydweithio gyda chwmnïau eraill a gwneud
cysylltiadau newydd. Mae busnes yn bendant yn ffynnu ac rydym yn awyddus iawn
i wneud busnes gyda chwmnïau lleol eraill ac i gadw talent leol yn yr ardal.”
Y diwrnod canlynol, aeth cannoedd o bobl i Ddigwyddiad Cyflogaeth a Gwybodaeth
yn Neuadd Ddinesig Cei Connah.
Roedd modd i gyflogwyr o wahanol sectorau, gan gynnwys Ralawise, Lend Lease,
Kingswood a grwp bwyd 2 Sisters arddangos eu busnesau ac roedd modd i geiswyr
gwaith ddod o hyd ir llwybr ar cymwysterau sydd eu hangen i fod yn
llwyddiannus yn y meysydd hyn. Roedd asiantaethau recriwtio gan gynnwys Blue
Arrow, Travail ac Enbarr Enterprises hefyd yn hysbysebu eu swyddi gwag
presennol a swyddi gwag sydd i ddod.
Roedd dros 300 o swyddi gwag ar gael gydag ymgeiswyr yn manteisio ar y
gefnogaeth ar y dydd i lenwi ffurflenni cais, a chafodd nifer o gyfweliadau
eu trefnu ar y diwrnod.
Roedd cynrychiolwyr Clwb Menter Cymunedau yn Gyntaf yn bresennol i hyrwyddo
cyfleoedd entrepreneuraidd yn Sir y Fflint a’r gefnogaeth sydd ar gael i’r
rheiny sydd eisiau cychwyn eu busnes eu hunain. Roedd Gyrfa Cymru wrth law i
gynnig cymorth a chyngor wedii deilwra yn ymwneud â sgiliau cyfweliad ac
argraffiadau cyntaf.
Trefnwyd y digwyddiad gan Gymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith
a Gyrfa Cymru. Bu Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint hefyd yn arddangos eu gwaith
ynghyd â rhaglen Esgyn a Chymunedau ar gyfer Gwaith, a ddatblygwyd i helpu i
gael gwaith i’r di-waith hirdymor.
Daeth llawer i’r digwyddiad y noson honno, a oedd yn canolbwyntio ar swyddi a
phrentisiaethau rhanbarthol, gydar prif siaradwr Iwan Thomas, Rheolwr Rhaglen
Rhanbarthol ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Siaradodd am
ddull Tîm Gogledd Cymru y Bwrdd. Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd Cynllun
Sgiliau a Chyflogaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru i ranbarth Gogledd Cymru i
gyd, cyn ei lansiad swyddogol y bore canlynol yn Venue Cymru, Llandudno. Bydd
yr adroddiad hwn yn bwydo i mewn i Lywodraeth Cymru wrth iddynt benderfynu ar y
cyllid ar gyfer addysg yng Nghymru yn y dyfodol.
Y siaradwyr eraill oedd Ian Budd, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, a siaradodd
am sut mae ysgolion yn Sir y Fflint yn moderneiddio ac yn gweithio gyda
busnesau i baratoi’r gweithlu gorau ar gyfer y dyfodol. Siaradodd Clare
Budden, Prif Swyddog Cymuned a Menter, a Vicky Barwis, Cyfarwyddwr Dysgu
Seiliedig Ar Waith a Menter Cyflogwyr Coleg Cambria, am y pwysigrwydd y mae
Cyngor Sir y Fflint a Choleg Cambria yn ei roi ar brentisiaethau a sut maent yn
gweithio gyda busnesau lleol ac mewn partneriaeth i annog pobl yn yr ardal leol
i fanteisio ar brentisiaethau a’u datblygu. Maer pwyslais ar gadw sgiliau
lleol yn yr ardal leol.
Ar nos Iau, cafwyd amrywiaeth o gyflwyniadau ar y pwnc Economi ac Uchelgais.
Roedd y cyntaf yn canolbwyntio ar uchelgeisiau ar gyfer Twf Economaidd
Rhanbarthol gan Gynghrair Merswy a Dyfrdwy a Chyngor Sir y Fflint. Mae
Cynghrair Merswy a Dyfrdwy yn bartneriaeth rhwng cynghorau Cilgwri, Sir y
Fflint, Wrecsam a Gorllewin Swydd Caer a Chaer, Mersey Travel a’r colegau
Addysg Bellach ac Addysg Uwch a’r sector preifat. Ei brif nod yw tyfu’r
economi. Roedd y cyflwyniad yn cynnwys cryfderau economaidd allweddol,
sialensiau twf a sut yr eir i’r afael â hwy, yn ogystal ag anghenion sgiliau.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros
Ddatblygu Economaidd, sydd hefyd yn Gadeirydd ar Gynghrair Merswy a Dyfrdwy:
“Mae Cynghrair Merswy a Dyfrdwy yn unigryw - dymar unig gynghrair trawsffiniol
ac mae iddo economi bywiog ar draws pob sector. Rydym yn ymgyrchu ar gyfer
gwell seilwaith gyda Rail Track 360 a dau gynnig am dwf yng Ngogledd Cymru a
Swydd Gaer, ac rydym yn edrych tuag at gael mwy o gysylltedd o ran cyfleoedd
addysg a chyflogaeth.”
Arweiniodd hyn at yr ail siaradwr, Paul Hildreth Bartlett o Goleg Prifysgol
Llundain, a siaradodd am economi trawsffiniol a chanlyniadau ei ymchwil ar
economi Merswy a Dyfrdwy.
Yna, siaradodd Cyngor Sir y Fflint am y pwysigrwydd y maen ei roi ar fod yn
gyngor syn galluogi twf economaidd mewn amgylchedd heriol i lywodraeth leol
Yn olaf, cyflwynodd Steve Hicks o Fanc Lloegr farn y banc am yr Economi
Genedlaethol, gan gynnwys y rhagolwg i dwf economaidd y DU, perfformiad y
farchnad lafur a disgwyliadau o ran prisiau.
I gloi wythnos gyffrous o ddigwyddiadau oedd y Digwyddiad Rhwydwaith
Twristiaeth ddydd Gwener 30 Medi yn Danger point, Talacre. Darparodd y
digwyddiad y wybodaeth ddiweddaraf am y sector twristiaeth fel cyfres o
gyflwyniadau 5 munud gan sefydliadau a phartneriaethau cyhoeddus a phreifat,
gan gynnwys:
· Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
· Cymdeithas Dwristiaeth Sir y Fflint
· Cynllun Llysgenhadon Gogledd Ddwyrain Cymru
· Theatr Clwyd
· Band Eang Cyflym Iawn Cymru
Daeth y digwyddiad i uchafbwynt gyda gweithdy i edrych ar effaith y cyfryngau
cymdeithasol ar dwristiaeth, ennyn diddordeb brandiau a chynnwys a gynhyrchir
gan ddefnyddwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
“Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint unwaith eto wedi dod â channoedd o fusnesau
ynghyd mewn partneriaeth unigryw a llwyddiannus rhwng y sector cyhoeddus ar
sector preifat. Rydym wedi cael digwyddiadau a seminarau gwych. Ar ran y
Cyngor, rydw i eisiau diolch yn ddiffuant in holl noddwyr ac i’n partneriaid
syn gweithio mor galed gyda thîm busnes y Cyngor i wneud y digwyddiad hwn yn
bosibl.