Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Prentisiaid yn dechrau gyda’r cyngor lleol
Published: 30/09/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu 22 o brentisiaid newydd.
Bu i’r recriwtiaid newydd gwrdd â’r Prif Weithredwr Colin Everett , ac
Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton, yn ystod diwrnod cynefino yn
Academi Dysgu a Datblygur Cyngor yng Ngholeg Cambria, Llaneurgain.
Mae cyfanswm nifer y prentisiaid yn 51 ar draws y sefydliad.
Mae nifer o brentisiaid yn cael eu recriwtio bob blwyddyn i ddysgu sgiliau mewn
meysydd sy’n cynnwys busnes, cyfrifyddiaeth, iechyd a gofal cymdeithasol,
iechyd yr amgylchedd, priffyrdd, gwasanaethau gwastraff a chynnal a chadw
tiroedd. Eleni, mae’r grwp yn cynnwys saith unigolyn ifanc a fydd yn
gweithio gyda hyfforddiant yn depo Alltami, er enghraifft fel gweithwyr
gweithdy a pheirianwyr golau stryd.
Mae’r prentisiaid fel arfer yn mynychu’r coleg un diwrnod yr wythnos i ennill
cymwysterau a gydnabyddir yn y diwydiant a chael profiad gwerthfawr o weithio
i’r cyngor ac ennill cyflog.
Maer Cyngor hefyd wedi cyflogi dau a fydd yn gallu parhau i gyflawni eu
cymhwyster Meistr gan weithio mewn proffesiwn ar yr un pryd.
Dywedodd y Cynghorydd Shotton:
“Mae ein cynllun Prentis sydd wedi ennill sawl gwobr yn ddewis arall atyniadol
i goleg neu brifysgol llawn amser. Mae’r ffaith bod y cynllun hwn tyfu a
datblygu bob blwyddyn yn dangos ein hymrwymiad parhaus, fel Cyngor, i greu
cyfleoedd Prentisiaeth i bobl leol.”
Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr:
“Mae’n bleser gennyf groesawu prentisiaid eleni a hoffwn ddymuno pob hwyl
iddynt yn eu taith i mewn i gyflogaeth. Mae llawer on prentisiaid wedi symud
ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus iawn yn eu dewis broffesiwn neu grefft. Mae’r
ffaith bod 96% o’r rheiny sydd ar ein cynllun yn cael cyflogaeth neu leoedd
mewn addysg uwch ar ddiwedd eu prentisiaeth yn ganmoliaeth i’r rhaglen a’n
partneriaeth gyda Choleg Cambria.”