Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwyl Goleuni Abaty Dinas Basing
Published: 20/09/2016
Bydd gwyl tafluniadau golau a gweithgareddau addas ir teulu yn rhad ac am ddim
yn cael ei gynnal yn Abaty Dinas Basing, Maesglas, ddydd Sadwrn 15 Hydref 2016.
Bydd Gwyl Goleuni eleni yn arddangos asedau, amgylchedd a threftadaeth arfordir
Sir y Fflint.
Maer digwyddiad yn dechrau am 4pm ac yn gorffen am 7:30pm ac mae’n rhad ac am
ddim. Bydd cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai gwneud llusernau ac offerynnau
taro gydag artistiaid lleol, i wrando ar gerddoriaeth acwstig fyw, dewch â
phicnic neu fwynhau BBQ ar y safle, cymryd rhan mewn gorymdaith llusernau
gydar hwyr ac yna mwynhau diweddglo perfformiad dawns a thafluniadau, a fydd i
gyd wedi eu creu yn arwain i fyny at y digwyddiad.
Mae gosodiadau celf arbenigol, darnau dawns, tafluniadau ffilm, cerddoriaeth a
gweithdai yn cael eu creu gan NEW Dance, artistiaid Ben Davis, Judith Wood, Rob
Spaull, Ynyr Llwyd a Honor Pedican yn benodol ar gyfer yr wyl. Bydd hyn yn cael
ei gyflawni drwy weithio gyda chyfranogwyr o amrywiaeth o gymunedau arfordirol
ac ysgolion Sir y Fflint mewn amrywiaeth o weithgareddau drwy gydol mis Medi.
Bydd cerddoriaeth fyw gan gerddorion acwstig lleol, ar y llwyfan y tu mewn ir
abaty, a gorymdaith llusernau cyfnos yn ychwanegu at yr awyrgylch yn yr wyl am
ddim i bob oed i greu cyfarfyddiad y gobeithir y bydd yn rhoi persbectif newydd
ar hanes a thirweddaur rhanbarth i bobl, ysbrydoli creadigrwydd yn y rhanbarth
ac yn annog pobl i archwilior arfordir.
Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu
Economaidd:
“Rydym yn falch o fod yn arddangos ein cymunedau arfordirol amrywiol, ddeniadol
a bywiog a threftadaeth gysylltiedig fel y brif nodwedd yn ystod Gwyl Goleuni
Dinas Basing. Rwyf yn siwr y bydd ymwelwyr ân rhanbarth arfordirol hardd yn
mwynhaur digwyddiad yn fawr iawn ac yn dychwelyd yn y dyfodol i edrych ar yr
ystod lawn o atyniadau ymwelwyr sydd gan Sir y Fflint iw cynnig.”
Meddai llefarydd ar ran y Gronfa Loteri Fawr: “Mae Cymunedau Arfordirol yn
rhannu ymdeimlad cryf o le a bydd y cyllid ar gyfer y digwyddiad hwn yn cael
effaith bositif ar economir ardal leol ai chymunedau.”
Maer wyl yn cael ei threfnu gan dîm celfyddydau, diwylliant a digwyddiadau
Cyngor Sir y Fflint gyda chymorth ariannol gan Gronfa Cymunedau’r Arfordir a
Cadw. Mae Cronfa Cymunedaur Arfordir yn cael ei chyllido gan y Llywodraeth
gydag incwm o asedau morol Ystâd Y Goron. Mae’n cael ei ddarparu gan y Gronfa
Loteri Fawr ar ran Llywodraeth y DU ar Gweinyddiaethau Datganoledig yng
Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru.