Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Parc aur Dyffryn Maes Glas
Published: 19/09/2016
Mae parc yn Sir y Fflint wedi llwyddo i gadw Safon Aur genedlaethol am yr ail
flwyddyn.
Mae Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas wedi ei hachredu fel “Atyniadau i
Ymwelwyr â Sicrwydd Ansawdd” o dan Gynllun Sicrhau Ansawdd Atyniadau i Ymwelwyr
Croeso Cymru.
Mewn asesiad annibynnol, maer parc wedi sgorion uchel yn yr holl feysydd a
gafodd eu hadolygu, gan gynnwys cyn-cyrraedd, taflenni, gwefannau, deunydd
hyrwyddo, gwiriadau pris, hygyrchedd, glendid a staff.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros
yr Amgylchedd:
“Mae hwn yn anrhydedd mawr ar gyfer y parc ardderchog ac mewn lleoliad gwych yn
Sir y Fflint i ymwelwyr i fwynhau harddwch ein cefn gwlad lleol.”
Dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas a
Chadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Peter Curtis:
“Rwyn falch o fod yn Gadeirydd grwp ymroddedig iawn o bobl syn gweithion
galed i sicrhau bod ymwelwyr yn cael y profiad gorau pan fyddant yn ymweld â’r
ardal hardd hon. Rwyf wrth fy modd fod Croeso Cymru wedi nodi bod y ganolfan
ymwelwyr newydd yn “ddatblygiad nodedig”. Maer gwaith adnewyddu a wnaed yn
ddiweddar, diolch i grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri o £1 filiwn, a sicrhawyd
gan y Cyngor ar Ymddiriedolaeth, wedi sicrhau y bydd y parc yn parhau i fod yn
atyniad i ymwelwyr or radd flaenaf ar gyfer y blynyddoedd i ddod.”