Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Arwyddo Llwybr Cysylltu Cymru yn dechrau
Published: 16/09/2016
Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Y Fflint wedi dechraur prosiect o
arwyddo’r Llwybr Cysylltu Cymru newydd.
Mae’r arwyddbost cyntaf, ar ddechraur llwybr ar ochr ddeheuol y bont droed
Saltney Ferry wedi cael ei osod. Bydd y gwaith yn parhau i roi arwyddbyst ar
hyd y llwybr drwy Saltney, Bretton, Doddlestone, Burton, Yr Hob, Caergwrle,
Ffrith, Four Crosses a fydd yn dod i ben yn Llandegla.
Mae’r Llwybr Cysylltu Cymru yn cysylltu’r Llwybr Arfordir Cymru gyfan gyda
llwybr y Clawdd Offa. Mae’n ddeunaw milltir o hyd, ac mae’r llwybr yn amrywiol
iawn, gan ddechrau ar dir fferm llawr gwlad, gan fynd drwy goetir panoramig a
gorffen ar weundir uchel trawiadol. Cyflawnwyd y prosiect hwn gyda chymorth
Cronfa Cymunedau’r Arfordir.
Mae Cronfa Cymunedaur Arfordir yn cael ei gyllido gan y Llywodraeth gydag
incwm o asedau morol Ystâd Y Goron.
Caiff ei gyflwyno gan Gronfa’r Loteri Fawr ar ran Llywodraeth Y DU a
Gweinyddiaethau Datganoledig Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Dywedodd y
Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr
Amgylchedd:
“Mae’r Llwybr Cysylltu Cymru yn awr yn cysylltu ardaloedd gwledig ar rhai
arfordirol, gan wella hawliau tramwy drwy bedair sir ac ar ôl cwblhaur
arwyddbyst, bydd yn llwybr newydd gwych i gerddwyr brwdfrydig yn y cefn gwlad.
Dywedodd Stephen Lewis, Ceidwad Cefn Gwlad Sir y Fflint sy’n rhedeg y prosiect:
“Rhoddwyd yr arwyddbost cyntaf i wneud i bobl feddwl am Lwybr Arfordir Cymru.
Mae un arwyddbost yn dweud Caerdydd 812 milltir. Nid hwn yw’r llwybr
uniongyrchol i Gaerdydd fel yr hed y frân, dyna faint o filltiroedd y byddai’n
cymryd i chi gerdded arfordir Cymru i gyrraedd Caerdydd.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Lloyd, Cynghorydd i Saltney Cyffordd yr Wyddgrug:
“Mae’n wych bod Llwybr Cysylltu Cymru yn dechrau yn Saltney, ac yn ymgorffori
Dolen Cadwyn Saltney yn logo’r llwybr, sydd yn helpu i ddiogelu treftadaeth
leol bwysig.
Or chwith: Jim Craven (gwirfoddolwr), Stephen Lewis (Ceidwad Cefn Gwlad),
Danielle Duncan (gwirfoddolwr) ac Cyng Richard Lloyd