Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Datganiad ir wasg Cabinet - Medi 2016
Published: 19/09/2016
Gweledigaeth a Strategaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru
Mae Llywodraeth y DU wedi gwahodd rhanbarth Gogledd Cymru i wneud Cynnig i
gyflawni twf economaidd cyflym drwy fuddsoddi mewn isadeiledd, a sgiliau a
thrwy gyflwyno rhyddid a hyblygrwydd newydd ar gyfer y rhanbarth, gan gynnig
mwy o reolaeth leol. Mae hyn yn golygu bod y rhanbarth yn cael ei chydnabod o
ran ei hun.
Mae’r Weledigaeth, syn rhoi cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio economaidd yn y
dyfodol yn cael ei chyflwyno i bob un o chwe chyngor Gogledd Cymru i’w
fabwysiadu ac yn cael ei gefnogi gan arweinwyr a phrif weithredwyr y chwe
awdurdod unedol yn y rhanbarth, Cyngor Busnes Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor ,
Prifysgol Glyndwr, Coleg Cambria, Grwp Llandrillo - Menai (Coleg) a Bwrdd
Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Mae hyn wedi bod yn bosibl drwy gydweithio
a gwaith partneriaeth a chyfranogiad cryf yn y sector preifat.
Maen amlinellu nodau ac uchelgeisiau ar gyfer rhanbarth hyderus, cydlynol
gyda thwf economaidd cynaliadwy, sy’n manteisio ar lwyddiant sectorau
economaidd gwerth uchel ai gysylltiad ag economïau Powerhouse Gogledd Lloegr
ac Iwerddon.”
Maer rhanbarth yn ystyried y Cynnig ar gyfer Twf fel un or cerbydau i sicrhau
buddsoddiad i gyflawni nodau a dyheadaur Weledigaeth o rwan hyd at 2035.
Ochr yn ochr âr Weledigaeth a’r Strategaeth ar gyfer Twf, sefydlwyd tasglu
rheilffyrdd Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy i gydlynu camau gweithredu a
lleihau cymhlethdod sefydliadol yn yr ardal drawsffiniol unigryw. Maen darparu
dull unigol i gyflenwi mewn ardal o bum Ardal Fenter, wyth Awdurdod Lleol, dwy
lywodraeth genedlaethol a sector preifat ffyniannus ac amrywiol. Mae
partneriaid wedi eu halinio i gydnabod un ardal economaidd ac un rhwydwaith
gludiant unedig i’w gwasanaethu. Mae gan y buddsoddiad mewn gwellar
rheilffyrdd y potensial i drawsnewid yr economi a chynnig gwell cyfleoedd
mynediad i’n gweithlu y tu mewn ar tu allan ir rhanbarth. Cyflwynwyd y
prosbectws i lywodraethaur DU a Chymru ac mae gwaith ar y gweill i fynd ati i
ddatblygu blaenoriaethau cynnar.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
“Mae Gogledd Cymru yn rhanbarth unedig gydag ymdeimlad cryf o hunaniaeth ac
mae’r Weledigaeth yn amlinellu uchelgais clir y rhanbarth i ddatblygu
isadeiledd, sgiliau a
chyflogaeth, a thwf busnes a allai, os yw’n llwyddiannus, weld gwerth economi
Gogledd Cymru yn cynyddu o £12.8 biliwn yn 2015 i £20 biliwn erbyn 2035 a chreu
120,000 o gyfleoedd cyflogaeth newydd ychwanegol.
“Bydd Cyngor Sir y Fflint hefyd yn sicrhau bod unrhyw Gynnig ar gyfer Twf yn
gysylltiedig iawn â Gogledd Orllewin Lloegr gerllaw gan fod y Weledigaeth hon
yn bosibl oherwydd cyfranogiad cryf y sector preifat ac yn adeiladu ar waith
Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chynghrair Drawsffiniol Mersi a’r
Ddyfrdwy a Phartneriaeth Menter Lleol Swydd Caer a Warrington.”
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo “Gweledigaeth Twf ar gyfer
Economi Gogledd Cymru” fel sail ar gyfer trafod gyda Llywodraethaur DU a
Chymru dros Gynnig ar gyfer Twf ar gyfer y rhanbarth yn ei gyfarfod nesaf ar 20
Medi. Bydd hefyd gofyn iddo gefnogi a chymeradwyor prosbectws ar gyfer Gwella
Rheilffyrdd “Growth Track 360”.
Adroddiad Cyllideb Refeniw Cronfar Cyngor
Mabwysiadodd Cyngor Sir y Fflint Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a oedd yn
nodir angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu gwasanaethau llywodraeth leol
allweddol, fel addysg a gofal cymdeithasol, os ywr Cyngor am ddod o hyd i
atebion i’r her y maen ei wynebu ar y gyllideb
Mae Sir y Fflint yn gyngor sy’n derbyn lefel isel o gyllid o dan y fformiwla
ariannu llywodraeth leol ac roedd yn wynebu ‘bwlch’ ariannu cychwynnol o tua
£20 miliwn mewn un flwyddyn. Mae opsiynau cyfyngedig i ddod o hyd i atebion
heb i Lywodraeth Cymru gynnig rhywfaint o gymorth i leihau graddfar
gostyngiadau cyllido cenedlaethol.
Adroddwyd mai’r bwlch a ragwelir ar gyfer 2017/18 rhwng incwm a gwariant fydd
£14.4 miliwn ym mis Gorffennaf 2016. Maer Cyngor wedi datblygu set o
gynlluniau cyllideb ar draws ei wasanaethau a fyddain rhoi arbediad llawn o
tua £6 miliwn. Mae hyn ar ben yr arbedion effeithlonrwydd sylweddol maer
Cyngor wedi gwneud dros nifer o flynyddoedd wrth ddiogelu gwasanaethau a swyddi
lleol.
Yn ei gyfarfod ar 20 Medi, gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint argymell cam
cyntaf hwn cynigion y gyllideb ar gyfer 2017/18. Mae gwaith yn parhau o gwmpas
opsiynau i wneud arbedion pellach mewn costau corfforaethol ac mewn
trafodaethau cenedlaethol o amgylch cyllideb Llywodraeth Cymru a fydd yn cael
ei chyhoeddi ddiwedd mis Hydref.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
“Rydym yn parhau i weithion galed i gynllunio a darparu gwasanaethau cyngor
hanfodol, sydd eu dirfawr angen mewn cyfnod o galedi ariannol parhaus a
digynsail yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig.
“Mae pob maes gwasanaeth cyngor yn destun adolygiadau helaeth a pharhaus syn
ystyried effeithlonrwydd pob gwasanaeth, gwerth am arian, a gallu pob
gwasanaeth i ymateb i bwysau ar gostau. Mae’r gwaith hwn yn dangos mai opsiynau
effeithlonrwydd cyfyngedig sydd gan y Cyngor heb orfod lleihau gwasanaethau i
lefelau annerbyniol o ddarpariaeth gwasanaeth.
“Mae Sir y Fflint, fel cyngor sy’n derbyn lefel isel o gyllid, yn arbennig o
agored i effeithiau gostyngiadau arwyddocaol blynyddol ar y gyllideb ac mae’r
opsiynau i ddod o hyd i atebion yn gyfyngedig heb i Llywodraeth Cymru rhywfaint
o gymorth. Maer risgiau a berir i wasanaethaur Cyngor wedi eu hamlinellu’n
glir i Weinidogion a gweision sifil, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC),
a chyrff cenedlaethol eraill gan gynnwys Swyddfa Archwilio Cymru.
Maer Cyngor hefyd yn cymryd rhan ymarferol mewn trafodaethau cenedlaethol
ynghylch Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017/18, gan gynnwys y Setliad
Llywodraeth Leol, fel rhan o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac fel cyngor
unigol.”
“Mae disgwyliadau mawr ar hyn o bryd ac arwyddion cadarnhaol y bydd Llywodraeth
Cymru’n mabwysiadu strategaeth gynaliadwy ar gyfer ariannu’r sector cyhoeddus i
leddfur baich ar awdurdodau lleol fel ein un ni.”
Y Cabinet yn ystyried Safonau’r Gymraeg
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gytuno ar yr Adroddiad Monitror
Gymraeg a hefyd nodir cynnydd syn cael ei wneud i weithredu Safonau’r Gymraeg
( y Safonau) pan fydd yn cyfarfod nesaf ar 20 Medi.
Nod cyffredinol y Safonau yw parhau a datblygu gwaith y Cynlluniau Iaith
Gymraeg blaenorol. Ei nod yw cynyddu nifer y bobl syn defnyddio gwasanaethau
Cymraeg ac mae’n cynnig arweiniad i sefydliadau ar yr hyn sydd ei angen arnynt
i gyrraedd y nod hwn.
Maer rhan fwyaf or Safonau yn cyd-fynd âr ymrwymiadau a nodwyd yng Nghynllun
Iaith Gymraeg blaenorol y Cyngor ac maer Cyngor yn parhau i wella mewn nifer o
feysydd fel:
· y gwaith o gyflwyno’r ‘Fframwaith Mwy na Geiriau yn y Gwasanaethau
Cymdeithasol gan eu rhoi mewn sefyllfa ardderchog i gwrdd â’r Safonau a darparu
gwasanaethau dwyieithog
· y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg syn cael ei diweddaru i gwrdd âr
nifer cynyddol o ddisgyblion syn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a thros amser, y
nifer o ddarpar weithwyr syn siarad Cymraeg.
· mae nifer cynyddol o weithwyr yn derbyn hyfforddiant iaith Gymraeg oi
gymharu â 2014/15.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol,
Cyngor Sir y Fflint:
“Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i
sicrhau y gellir cyflawni’r safonau newydd yn ymarferol, gan gydnabod
daearyddiaeth a dadansoddiad demograffig o ardal y Cyngor.
“Maer Cyngor hefyd yn datblygu Strategaeth Hyrwyddor Gymraeg pum mlynedd o
hyd a pholisi ar gyfer y Gymraeg yn y gweithle er mwyn sicrhau ein bod yn codi
proffil y Gymraeg er mwyn helpu i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir
a’r cyfleoedd i weithwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith.”