Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cytuno ar gyllid ar gyfer Canolfan Ailgylchu i Aelwydydd yn lleol
Published: 13/09/2016
Yn dilyn adolygiad Llywodraeth Cymru o wasanaeth Ailgylchu ar gyfer Aelwydydd y
Cyngor, cyflwynwyd adroddiad i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd ym Mai.
Roedd yr adroddiad yn argymell gostyngiad yn nifer y safleoedd presennol i dri
safle wedi eu gosod yn strategol ac a oedd yn fodern ac yn addas i’r diben. O
ymgynghoriad cyhoeddus a wnaed ar y pryd, ac o adborth ir adroddiad gan
breswylwyr ac aelodau lleol, roedd yn eglur eu bod eisiau darpariaeth mwy
lleol.
Wrth ymateb, gofynnodd Cabinet y Cyngor i swyddogion edrych ar bump opsiwn o
ran safle oedd yn ystyried disgwyliadau’r cymunedau ac yn ateb yr angen i’r
Cyngor gwrdd â thargedau ailgylchu statudol heriol. Mae arian Cyfalaf wedi ei
gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r newidiadau sy’n cynnwys
ailddatblygu 2 o’r safleoedd presennol yn sylweddol, sef Nercwys a Bwcle. Bydd
yr ailwampio ymhob safle yn cynnwys mynedfa glir heb risiau a gwell rheolaeth
ar drafnidiaeth yn ogystal â chynnydd mewn cyfleoedd ailgylchu.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer
Gwarchod y Cyhoedd a Gwastraff:
Mae’r Cyngor wedi gwrando ar y cyhoedd, bydd gwelliannau safle yn rhoi gwell
profiad i’r cwsmer gyda mwy o bwyslais ar ailddefnyddio ac ailgylchu a fydd yn
ein helpu i gwrdd â’r targedau ailgylchu statudol sydd wedi eu gosod gan
Lywodraeth Cymru.”
I sicrhau’r cyllid gan Lywodraeth Cymru rhaid i’r gwaith o ailddatblygu fod
wedi ei gwblhau erbyn Mawrth. Bydd y cynlluniau yn dangos y newidiadau yn cael
eu cyflwyno yn fuan fel rhan o gais cynllunio. Bydd yr argymhellion hefyd yn
cael eu harddangos ymhob un o’r 2 safle er mwyn i’r cyhoedd eu gweld a rhoi
sylwadau arnynt.