Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae sefydliadau yn paratoi ar gyfer Digwyddiad Dathlu Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy
Published: 08/09/2016
Mae sefydliadau ledled Cymru a Lloegr yn paratoi ar gyfer digwyddiad ir teulu
yng Nghaer, i ddathlu popeth syn gysylltiedig a’r Afon Dyfrdwy.
Bydd Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy GWIRIONEDDOL yn cael ei gynnal ym Mharc Cae Edgar,
Handbridge, Caer, ddydd Sadwrn, 17 Medi o 11am tan 3pm.
I ddathlu 10fed pen-blwydd y digwyddiad glanhau blynyddol ar hyd glannau’r Afon
Dyfrdwy – Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy - bydd y digwyddiad yn cynnwys digwyddiadau a
stondinau syn gysylltiedig âr afon ai chymunedau, yn y gorffennol ar
presennol.
Bydd grwpiau o bob rhan o Orllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru yn dod at ei
gilydd i nodir achlysur.
Mae digwyddiad glanhau blynyddol Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy, a drefnwyd gan Gyngor
Caer a Gorllewin Swydd Gaer, Cyngor Sir y Fflint, Asiantaeth yr Amgylchedd a
Chyfoeth Naturiol Cymru, yn addo bod yn fwy ac yn well nag erioed ar gyfer ei
ben-blwydd yn 10 oed.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae Cyngor
Sir y Fflint yn falch o fod yn rhan o ddathlu degfed pen-blwydd Diwrnod Mawr y
Ddyfrdwy.
“Bydd ‘Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy yn cynnig cyfle gwych i ddarganfod mwy am
dreftadaeth a hanes wych yr Afon Dyfrdwy ai haber. Bydd y digwyddiad hefyd yn
pwysleisio pa mor bwysig yw hi i sicrhau ein bod yn parhau i wneud ein gorau
glas i ddiogelu amgylchedd unigryw a diddorol yr Afon Dyfrdwy.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Samantha Dixon: “Maen wych bod ein
cydweithrediad trawsffiniol llwyddiannus erbyn hyn wedi arwain at dathliad mor
gyffrous ar gyfer dathliad 10 mlynedd Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy.
“Bydd rhywbeth at ddant pawb yn Niwrnod Mawr y Ddyfrdwy ac rwy’n gobeithio y
bydd cymaint o bobl â phosibl yn manteisio ar y cyfle hwn i ddarganfod mwy am y
sefydliadau, busnesau, grwpiau a chymunedau lleol syn byw ger yr Afon Dyfrdwy.
Mae Cyngor Caer a Gorllewin Sir Gaer wedi bod yn falch oi gysylltiad â Diwrnod
Mawr y Ddyfrdwy am flynyddoedd lawer. Bydd ein stondin yn Niwrnod Mawr y
Ddyfrdwy yn rhoi cyfle i ymwelwyr blannu pot blodau gwyllt y gallant wedyn fynd
adref gyda nhw.”
Dywedodd Jo Holden, Cydlynydd Dalgylch Asiantaeth yr Amgylchedd: “Bydd
Asiantaeth yr Amgylchedd yn casglu barn pobl am yr Afon Dyfrdwy yn ogystal â
gofyn, Pa mor dda ydych chin adnabod eich draeniau?” a chynnig cyngor ar sut
i wirio bod eich pibellau dwr gwastraff wedi’u cysylltu âr system garthffos yn
hytrach nar afonydd lleol.
“Gall ymwelwyr in stondin ein helpu i lunio murlun or enw Beth y mae’r Afon
Dyfrdwy yn ei olygu i mi a gweithgareddau crefft eraill.”
Dywedodd Carys Bebb, Swyddog yr Amgylchedd ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Maer Afon Dyfrdwy yn adnodd hanfodol bwysig ac rydym yn gweithion galed iw
diogelu.
“Maen darparu dwr yfed i filiynau o bobl, yn gynefin gwych ar gyfer bywyd
gwyllt gyda eogiaid syn mudo yma i silio ac yn cefnogi diwydiant ar draws yr
ardal.
“Mae hefyd yn rhywle i bobl fynd a mwynhau ein hamgylchedd naturiol, felly mae
Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy yn bwysig iawn er mwyn ei chadwn lân a heb sbwriel.
“Yn ystod Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy bydd swyddogion CNC yn trafod atal llygredd
gyda busnesau lleol ac adeiladau amaethyddol, gan amlygu sensitifrwydd yr Afon
Dyfrdwy. Bydd dod i adnabod gweithredwyr lleol ar hyd yr afon Dyfrdwy ai
hisafonydd yn cryfhau ymhellach ein hymateb i achosion o lygredd yn y dyfodol.
“Mae hefyd yn gyfle i ni wirio bod busnesau sydd yn storio cemegolion wedi
cofrestru ar gyfer y caniatâd priodol.”
Er bod parcio yn gyfyngedig yn Handbridge, mae Parc Cae Edgar ond yn daith
gerdded fer o ganol y ddinas. Mae gwybodaeth am barcio, amserlenni bysiau a
gwasanaeth parcio a theithio traws-dinas newydd ar gael ar wefan y Cyngor:
www.cheshirewestandchester.gov.uk.
Nodiadau i olygyddion:
Mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol ers 2007.
Dechreuodd y syniad gyntaf ar draeth Talacre pan benderfynodd Gwasanaeth Cefn
Gwlad Sir y Fflint a’r partneriaid BHP Billiton, Presthaven Sands, Clwb Traeth
Talacre, y gymuned leol a Chyfoeth Naturiol Cymru gynnal arolwg or traeth i
helpu i dynnu sylw at sbwriel morol ar niwed y gall ei achosi. Ers hynny, mae
Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref
Sirol Wrecsam, Cyngor Bwrdeistref Cilgwri a Pharc Cenedlaethol Eryri, yn
ogystal â llawer o wirfoddolwyr a busnesau lleol eraill - gan gynnwys Airbus,
Kingspan a Kimberley Clark - hefyd wedi cymryd rhan ac maer digwyddiad wedi
mynd o nerth i nerth.