Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diwrnod y Llynges Fasnach
Published: 06/09/2016
Am 9:30am ar Ddiwrnod y Llynges Fasnach, 3 Medi, chwifiodd Gyngor Sir y Fflint
y Lluman Coch yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug er mwyn codi ymwybyddiaeth o
ddibyniaeth barhaus y DU ar forwyr y Llynges Fasnach.
Arweiniodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Peter Curtis, seremoni fer cyn
codi’r faner.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi galwad cenedlaethol gan elusen Seafarers UK
a Chymdeithas y Llynges Fasnach i annog chwifio baner swyddogol Llynges Fasnach
y DU ar adeiladau cyhoeddus a pholion fflagiau o bwys.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Curtis, Cadeirydd y Cyngor:
“Rwyn falch bod Cyngor Sir y Fflint yn ymuno â sefydliadau cyhoeddus eraill
ledled Cymru ar DU i gydnabod gwaith gwerthfawr y Llynges Fasnach ai
chyfraniad at les y Genedl.”
Fel ‘cenedl sy’n ynys’, mae’r DU yn dibynnu ar forwyr y Llynges Fasnach ar
gyfer 95% on mewnforion, gan gynnwys hanner y bwyd yr ydym yn ei fwyta. Mae
gan y DU y diwydiant porthladdoedd mwyaf yn Ewrop. Mae 75% on hallforion (yn
ôl cyfaint) yn cael eu cludo o borthladdoedd y DU, mae rhai ohonynt yn
cefnogir ymgyrch drwy annog llongau syn ymweld â hwy i ganu eu cyrn am 10am
ar 3 Medi.
www.merchantnavyfund.org/merchant-navy-day