Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Fusnes Sir y Fflint yn mynd ar y bysiau

Published: 01/09/2016

Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2016 wedi lansio ymgyrch hysbysebu ar fysiau i godi ymwybyddiaeth or digwyddiad ym Mis Medi. Bydd nifer o fysiau gwennol P & O Lloyd yn teithio ar hyd a lled y sir, gyda hysbysebion i dynnu sylw at Wythnos Fusnes Sir y Fflint, sy’n cael ei chynnal rhwng 27 a 30 Medi. Prif noddwyr Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2016 yw AGS Security Systems (noddwyr Gwobrau Busnes Sir y Fflint) a Westbridge Furniture Designs (noddwyr Arddangosfa Fusnes Sir y Fflint). Mae uchafbwyntiaur Wythnos Fusnes – 10 mlwyddiant y digwyddiad blaenllaw hwn – yn cynnwys: Brecwast busnes Cynghrair Merswy a Dyfrdwy yng Ngholeg Cambria, Glannau Dyfrdwy – 27 Medi Agoriad swyddogol yr Wythnos Fusnes yng Ngholeg Cambria – 27 Medi Arddangosfa Fusnes yng Ngholeg Cambria – 27 Medi Noson sgiliau yn St David’s DeVere – 28 Medi Noson economi yn Soughton Hall – 29 Medi Rhwydwaith Twristiaeth yn PentrePeryglon – 30 Medi Gwobrau Wythnos Fusnes Sir y Fflint yn Soughton Hall – 21 Hydref Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd: “Byddwn yn annog busnesau i fod yn rhan o Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2016. Dyma brif ddigwyddiad busnes y Cyngor, ac maen llwyddiant mwy o un flwyddyn ir llall. Amcanion yr wythnos yw rhannu gwybodaeth ac arfer orau, datblygu a gwella cydberthnasau a phlatfform busnes a hybu llwyddiant busnesau Sir y Fflint. Yn y lansiad, ynghyd âr Cynghorydd Butler, roedd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Peter Curtis, Jonathan Turner – Rheolwr Gyfarwyddwr AGS Security Systems a Mark Chambers - Rheolwr Credyd a Mark O’Neil – Cyfarwyddwr Ariannol, y ddau gyda Westbridge Furniture Designs. Dywedodd Mark Chambers: “Mae Westbridge yn falch iawn o fod yn brif noddwr Arddangosfa Fusnes Sir y Fflint 2016 a byddem yn annog pob busnes lleol i fynd ir digwyddiad a bod yn rhan or dathliadau 10 mlwyddiant. Dywedodd Jonathan Turner: “Mae Gwobrau Busnes Sir y Fflint, ar ôl deng mlynedd, wedi tyfu i fod yn ddigwyddiad pwysicaf calendr busnes y sir. Eu holl bwrpas yw dathlu ein busnesau llwyddiannus ac mae’n lwyfan gwych i daflu goleuni ar Sir y Fflint a dangos yr hyn sydd gennym ni! Am fwy o fanylion ynglyn ag Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2016, ewch i www.flintshirebusinessweek.co.uk/?lang=cy – lle maer holl wybodaeth am ddigwyddiadaur wythnos, yn ogystal âr cwmnïau syn cymryd rhan. Or chwith: Mark O’Neil, Cllr Derek Butler, Cllr Peter Curtis, Jonathan Turner ac Mark Chambers