Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Safle cyn Lyfrgell Saltney
Published: 25/08/2016
Dechreuodd gwaith heddiw (24 Awst) ar welliannau i safle cyn Lyfrgell Saltney
yn Salisbury Ave yn Saltney i helpu i ymateb i bryderon a fynegwyd gan y
gymuned leol a’r ysgol am barcio ar y stryd a diogelwch y ffyrdd.
Roedd y safle yn arfer cynnwys y Llyfrgell a maes parcio bach, mae bellach wedi
ei lleoli yn y Ganolfan Ieuenctid a Chymunedol. Bydd y gofod sydd ar ôl yn
cael ei droi’n faes parcio i rieni sy’n gollwng a chasglu plant o’r ysgolion
cynradd lleol ac i breswylwyr lleol a dylai hyn leddfur pwysau ar y rhwydwaith
ffyrdd yn yr ardal. Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau cyn dechrau’r tymor ysgol
newydd.
Dywedodd Y Cyng. Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd,
“Dwi’n hynod o falch fod Cyngor Sir y Fflint wedi gallu gwneud defnydd da o’r
ardal yma er mwyn lleddfu problemau parcio a gwella diogelwch ar y ffyrdd o
fewn ac o gwmpas Salisbury Ave, yn arbennig ar ddechrau a diwedd y diwrnod
ysgol.”
“Dwi’n siwr y bydd y trefniant hwn yn dod â rhyddhad i drigolion lleol ac yn
darparu ateb ymarferol a chynaliadwy i broblem sydd o bryder i’r gymuned ac
ysgolion lleol.”
Nodyn i olygyddion
Yn y llun sydd ynghlwm mae (chwith ir dde) Adam Foley, Swyddog Technegol
Gwasanaethau Stryd ac Adrian Parry o’r contractwyr A Parry construction