Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwobrau Balchder Sir y Fflint 2016
Published: 24/08/2016
Cafodd cyflawniadaur plant mewn gofal maeth yn Sir y Fflint eu dathlu mewn
seremoni wobrwyo yng Nghlwb Rygbi Yr Wyddgrug fis diwethaf.
Roedd dros 230 o westeion, gan gynnwys plant syn derbyn gofal a phobl ifanc
sydd wedi gadael gofal, yn bresennol yn y seremoni wobrwyo ffurfiol a’r diwrnod
llawn hwyl ir teulu a gynhaliwyd gan Gyngor Sir y Fflint.
Agorodd yr Arglwydd Barry Jones drafodion ynghyd â Chadeirydd Cyngor Sir y
Fflint, Peter Curtis. Cyflwynwyd gwobrau gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau
Cymdeithasol, y Cynghorydd Christine Jones, Prif Swyddog dros Wasanaethau
Cymdeithasol, Neil Ayling, yr Arglwydd a’r Arglwyddes Jones ar Cynghorydd
Curtis.
Dywedodd y Cynghorydd Jones:
“Roedd yn ddiwrnod gwych, a fwynhawyd gan bawb oedd yn bresennol. Roedd y
llawenydd ar wynebaur derbynwyr yn amlwg i bawb ei weld, fel yr oedd balchder
eu gofalwyr au gwesteion. Mae pawb a gafodd wobr yn ei haeddu’n llwyr. Maer
gwobrau hyn wir yn dangos pa mor dda ywr gofal ar fagwraeth a gaiff y plant
hyn gan y teuluoedd syn gyfrifol amdanynt. Rwyf wrth fy modd gyda’r
digwyddiad hwn – gobeithio iddo barhau am yn hir. Da iawn i bawb sy’n rhan
ohono.”
Roedd y gwobrau ffurfiol yn cynnwys perfformiadau cerddorol gan y plant eu
hunain, a gweithgareddau hwyliog i roi diwrnod pleserus i’r plant ei ddathlu
a’i gofio.
Cyflwynwyd gwobrau i blant am gyflawni presenoldeb o 100% yn yr ysgol, am fod
yn gapten tîm chwaraeon, cefnogi achosion elusennol, myfyriwr cyfraith y
flwyddyn ac am berfformio yn yr Eisteddfod. Roedd y diwrnod hefyd yn dathlu’r
plant hynny sydd bellach wedi tyfu i fyny ac sy’n byw’n llwyddiannus yn eu
fflat eu hunain, gyda swydd a’u teulu eu hunain, gyda Gwobrau Cymeradwyaeth
Arbennig ar gyfer y rhai syn Gadael Gofal, ac un unigolyn ifanc eithriadol yn
derbyn y Wobr Phoenix i fywn annibynnol yn llwyddiannus.
Helpodd busnesau lleol i wneud y digwyddiad yn llwyddiant drwy gynnig eu
cefnogaeth ariannol a darparu anrhegion ar gyfer raffl. Hoffai Cyngor Sir y
Fflint ddiolch i: Dave Cottle Engineering, MPH Construction, Mainetti, Clwb Pêl-
droed Airbus, Clwb Rygbi Yr Wyddgrug, Westbridge Furniture, TATA Steel, Dee
Gas, Vitesse Motor Company. Synthite, P&A, Bluefin, Rubicon Garden Rooms,
Future Studios, cynghorwyr lleol a rhoddwyr unigol am eu cyfraniadau hael.
I gael gwybod mwy am gefnogir digwyddiad hwn y flwyddyn nesaf neu i ddod yn
ofalwr maeth, cysylltwch â Chyngor Sir y Fflint ar 01352 702190 neu e-bostiwch
prideofflintshire@flintshire.gov.uk.