Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
rosglwyddo Campws Dysgu yn Nhreffynnon yn Swyddogol
Published: 24/08/2016
Maer allweddi ir Campws Dysgu newydd 21ain Ganrif yn Nhreffynnon wedi cael eu
trosglwyddo’n swyddogol ar ddydd Gwener, 19 Awst i berchnogion balch, Cyngor
Sir y Fflint.
Mae’r Contractwyr Galliford Try North West wedi bod yn gweithio gydar Awdurdod
Lleol ar y prosiect am y 18 mis diwethaf ac wedi trosglwyddo’r adeilad (Cam 1)
ar amser yn barod ar gyfer yr agoriad a drefnwyd i ddisgyblion.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet:
“Rydym yn falch iawn gydar adeilad newydd. Maen gyfleuster gwych a bydd yn
gwella’r profiad dysgu i ddisgyblion a staff.
Dywedodd Jim Parker, Rheolwr Gyfarwyddwr Galliford Try North West:
“Rydym yn falch iawn o allu trosglwyddo adeilad ysgol o ansawdd uchel ir
disgyblion ar staff. Rydym bellach yn edrych ymlaen at weithio gydar ysgol
ar Cyngor i gwblhau cam dau ir un safon uchel.
Nodyn i olygyddion
Yn y llun atodedig (or chwith ir dde): Graham Ford (Uwch Reolwr Prosiect –
Galliford Try) Damian Hughes (Uwch Swyddog Cynllunio a Darpariaeth Ysgol -
Cyngor Sir y Fflint), Jim Parker (Rheolwr Gyfarwyddwr – Galliford Try), Ian
Budd (Prif Swyddog Addysg a Ieuenctid - Cyngor Sir y Fflint), Chris Bithell
(Aelod Gweithredol Addysg a Ieuenctid - Cyngor Sir y Fflint), John Weir
(Pennaeth Ysgol Treffynnon), Colin Everett (Prif Weithredwr - Cyngor Sir y
Fflint), Natalie James-Rutledge (Rheolwr Cyllid Cyfalaf - Llywodraeth Cymru),
Pete Davies (Pennaeth, Ysgol Maes y Felin).