Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Allweddi i addysg
Published: 24/08/2016
Mae’r datblygwyr Wynne Construction wedi cyflwyno’r allweddi i David Jones,
Prif Weithredwr Coleg Cambria, i Ganolfan Chweched Dosbarth newydd Glannau
Dyfrdwy gwerth £14.6 miliwn a fydd yn agor ar amser ar gyfer dechraur flwyddyn
academaidd newydd ym mis Medi.
Wedi’i datblygu ar y cyd gan Goleg Cambria, ysgolion lleol a Chyngor Sir y
Fflint, bydd y Ganolfan yn darparu cyfleusterau newydd a chwricwlwm ehangach o
ddewis ar gyfer 700 o ddysgwyr ôl-16 yn Sir y Fflint mewn lleoliad canolog
rhwng campws Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria ac Ysgol Uwchradd Cei Connah.
Maer adeilad tri llawr yn cynnwys cyfleusterau arbenigol y celfyddydau
perfformio, cerddoriaeth, gwyddoniaeth a chelfyddydau creadigol yn ogystal â
dosbarthiadau addysgu cyffredinol a mannau astudio cymdeithasol a phreifat. Ar
gael o fynedfa sydd newydd ei ffurfio o Lôn Golftyn, maer cynllun yn cynnwys
maes parcio i staff ac ymwelwyr yn ogystal â man parcio bysiau i wasanaethu
safle ehangach Coleg Cambria.
Dywedodd Y Cyng. Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid,
“Bydd y cyfleuster newydd gwych heb os yn gwella amgylchedd dysgu cannoedd o
fyfyrwyr ac rwyf yn sicr y bydd yn dod yn ganolfan rhagoriaeth yn y blynyddoedd
i ddod.
“Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru, Coleg Cambria, ysgolion lleol, swyddogion y
cyngor ac Wynne Construction am gydweithio mor dda a gwneud ein huchelgeisiau
yn realiti.”
Dywedodd David Jones OBE, Prif Swyddog Gweithredol Coleg Cambria;
“Rydym wrth ein bodd bod 6ed dosbarth Glannau Dyfrdwy yn gyflawn ac yn barod i
groesawur myfyrwyr cyntaf i’r cyfleuster newydd sbon hwn o’r radd flaenaf.
Maer prosiect hwn wedi bod yn enghraifft wych or gwaith partneriaeth sydd
wedi digwydd dros nifer o flynyddoedd rhwng Coleg Cambria a Chyngor Sir y
Fflint.
“Maer ganolfan 6ed dosbarth newydd gyffrous hon yn darparu amgylchedd dysgu
sy’n cymryd mantais o dechnoleg newydd gan gynnig gwell opsiynau cwricwlwm a
phrofiadau ar gyfer pobl ifanc o ogledd ddwyrain Cymru. Rydym yn wirioneddol
ffodus yn yr ardal hon i gael sylfaen economaidd gadarn mewn cyflogaeth a bydd
y gefnogaeth unigol a’r anogaeth yn ogystal âr her y gallwn ei gynnig yn 6ed
dosbarth Glannau Dyfrdwy yn galluogi ein pobl ifanc i ffynnu a chyflawni eu
nodau.”
Meddai Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr Wynne Construction;
“Mae hwn wedi bod yn brosiect enghreifftiol o ran y cydweithio rhwng yr holl
bartïon i gyflawnir cyfleuster newydd gwych ar gyfer addysg chweched dosbarth
yn Sir y Fflint. Rydym wrth ein bodd gydar canlyniad”