Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru
Published: 12/08/2016
Mae Sir y Fflint wedi croesawu ffigyrau creu swyddi diweddaraf Llywodraeth
Cymru yn 8 Ardal Fenter Cymru.
Yn ystod 2015/16, cafodd 1,960 o swyddi eu creu, eu diogelu neu eu cynorthwyo
yn erbyn targed o rhwng 1,400 a 1,900 ar draws yr ardaloedd. Ers iddynt gael eu
creu yn 2012/13, mae £177m o fuddsoddiad o’r sector preifat a’r sector
cyhoeddus hefyd wedi’i ddiogelu ac mae dros 400 o fusnesau wedi elwa o
gefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu
Economaidd:
“Mae hyn yn newyddion gwych i Gymru a Glannau Dyfrdwy, yn enwedig. Ers creu
Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy ym mis Ebrill 2012, mae 2,036 o swyddi wedi cael
eu creu a 3,150 o swyddi wedi cael eu diogelu. Mae hyn oherwydd bod Sir y
Fflint wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Bwrdd
Cynghori Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy – cyflawniad aruthrol.”
Yn ychwanegol at hyn, maer Rhaglenni Twf Sgiliau a Datblygur Gweithlu wedi
darparu cymorth ariannol uniongyrchol o dros £300,000 i fusnesau yng Nglannau
Dyfrdwy i gefnogi anghenion datblygu’r gweithlu.
Mae Ardaloedd Menter yn cynnig anogaethau penodol i ddenu busnesau newydd i
leoliadau ardderchog yng Nghymru gan ddefnyddio datrysiad penodol ar gyfer y
wlad, gyda nod o wella’i heconomi a chreu swyddi a chyfleoedd. Mae gan bob
ardal ei blaenoriaethau ai hamserlenni ei hun, gan ganolbwyntio ar sector
targed allweddol - mae Glannau Dyfrdwy yn canolbwyntio ar y sector
gweithgynhyrchu uwch.