Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Tref yn cael cymorth ar gyfer gweddnewid
Published: 20/07/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cyflwyno cynllun grantiau gwella siopau ym Mwcle y
mis hwn ac yn gofyn i fusnesau sydd â diddordeb i gysylltu â ni.
Y meini prawf ar gyfer y grant fydd:
· cyllid cyfalaf hyd at £10,000 yr eiddo
· mae angen iddo fod o fudd i edrychiad y dref, neu ailddefnyddio eiddo gwag;
· mae angen iddo fod yn ardal manwerthu craidd canol tref Bwcle;
· rhaid cael arian cyfatebol – byddwn yn darparu 60% tuag at gost gwaith mewnol
ac 80% ar gyfer gwaith allanol;
· ni fydd yn cefnogi gwaith cynnal a chadw arferol na phrynu offer.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros
Ddatblygu Economaidd:
“Mae hwn yn gynllun gwych i helpu perchnogion busnesau i uwchraddio eu
hadeiladau - y tu mewn ar tu allan, a helpu i anadlu bywyd newydd i ganol y
dref. Byddwn yn annog perchnogion adeiladau neu denantiaid i gysylltu â ni i
weld sut y gallant wneud cais. Mae £85,000 ar gael i gyd gan y Cyngor, felly
bydd ceisiadau yn cael eu trin ar sail y cyntaf ir felin.
“Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar eiddo Stryd Fawr i wella edrychiad yr unedau
(gwaith allanol) ac i fynd ir afael ag eiddo gwag (gwaith mewnol ac allanol).”
Bydd rhagor o fanylion, cymorth i helpu ymgeiswyr trwyr broses a phecyn cais
llawn ar gael yn fuan ond os hoffech fynegi diddordeb yn anffurfiol neu os
hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch â 01352 701427 neu
andrew.redfern@flintshire.gov.uk.