Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhaglen Gyfnewid Ieuenctid Siapan Sir y Fflint
Published: 19/07/2016
Mae Rhaglen Cyfnewid Ieuenctid Siapan eleni wedi cael ei gefnogi gan Toyota UK
unwaith eto.
Bob blwyddyn, mae myfyrwyr lleol yn cael cyfle i ddysgu am ddiwylliant Siapan,
diolch ir rhaglen gyfnewid ieuenctid syn talu am chwe lleoliad myfyrwyr.
Bydd teuluoedd y myfyrwyr llwyddiannus yn rhoi llety i’w hymwelwyr o Siapan am
bythefnos.
Yna caiff myfyrwyr Sir y Fflint gyfle i deithio i Siapan ac aros gydau
myfyrwyr Siapaneaidd partner a’u teuluoedd.
Maer rhaglen gyfnewid wedi bod yn rhedeg ers 1991, diolch i gronfa
ymddiriedolaeth a sefydlwyd gan gwmni syn seiliedig yn Buckley, Optec Ltd.
Ariennir y rhaglen hefyd gan grantiau a rhoddion, gan gynnwys rhoddion gan
Toyota UK sydd wedi’u lleoli yng Nglannau Dyfrdwy a The Great Britain Sasakawa
Foundation, syn cefnogi rhaglenni addysgol Siapaneaidd.
Cyflwynodd Martin Fry o Adran Materion Cyffredinol Toyota o’r Ffatri ar Lannau
Dyfrdwy eu siec i Karen Jones o Gyngor Sir y Fflint.
Roedd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint Aaron Shotton ar Prif Swyddog ac
Ymddiriedolwr Ian Budd hefyd yn bresennol i ddiolch i Martin am y rhodd.
I fod yn gymwys i wneud cais am le ar raglen gyfnewid y flwyddyn nesaf, mae’n
rhaid i fyfyrwyr fod rhwng 16 a 18 oed ar 1 Medi 2016, mewn addysg llawn amser
yn Sir y Fflint neu mewn addysg llawn amser ac yn byw yn Sir y Fflint.
I gael syniad o’r hyn maen ei olygu ir myfyrwyr au teuluoedd, bydd noson
wobrwyo yn cael ei chynnal nos Lun 1 Tachwedd, am 6.30pm yn Siambr y Cyngor,
Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug. Bydd myfyrwyr a fu’n cymryd rhan yn y rhaglen
gyfnewid eleni yn rhoi cyflwyniad am eu profiad ar manteision y maent wedii
gael ohono. Bydd rhieni’r myfyrwyr hefyd yn rhoi cipolwg ou safbwynt. Bydd
ceisiadau ar gyfer y rhaglen gyfnewid ar gael ar y noson, neu drwy gysylltu â
Karen Jones 07759295984 neu drwy anfon e-bost at karenjones@flintshire.gov.uk.
O’r chwith: Y Cynghorydd Shotton, Karen Jones, Martin Fry ac Ian Budd