Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cymunedau’n Gyntaf Sir y Fflint yn cefnogi FareShare
Published: 18/07/2016
Mae Cymunedau’n Gyntaf Sir y Fflint wedi ymuno’n ddiweddar â phrosiect
FoodCloud FareShare yng Ngogledd Cymru.
Nod y cynllun yw ailddosbarthu bwyd sy’n addas i’w fwyta o siopau yn
uniongyrchol i elusennau, sefydliadau dielw a grwpiau cymunedol. Mae FareShare,
sy’n elusen genedlaethol, ar hyn o bryd yn lansio’r cynllun hwn yn siopau Tesco
Extra a Tesco Superstore ar draws Gogledd Cymru.
Bu Vera Davey, Swyddog Arweiniol Iechyd Cymunedau’n Gyntaf, yn helpu dau grwp
gwirfoddol lleol sydd wedi’u lleoli ym Maes Glas i gofrestru ar gyfer y cynllun
yn ddiweddar. Mae’r grwpiau’n darparu prydau poeth a lluniaeth i’w cymunedau am
bris fforddiadwy.
Daeth Ashley Cooper, cydlynydd prosiect Fareshare, i ymweld â gwirfoddolwyr o
Glwb Cinio Maes Glas i esbonio’r broses ddosbarthu ac i wneud yn siwr bod y
grwp yn bodloni’r gofynion angenrheidiol. Roedd hyn yn cynnwys cael cegin
ddigonol a chyfleusterau rhewgell, a gwirfoddolwyr gyda thystysgrif Hylendid
Bwyd Lefel 2.
Bydd grwp bore coffi Maes Glas, a gynhelir gan ferched Eglwys y Drindod
Sanctaidd, hefyd yn cael rhoddion wythnosol.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
“Mae hwn yn gynllun gwych ac yn ffordd dda iawn o sicrhau nad yw bwyd da’n cael
ei wastraffu ac y gall pobl leol elwa o gael prydau maethlon a
chost-effeithiol.”
Meddai Sheena Willbanks, gwirfoddolwr gyda’r Clwb Cinio a Chynghorydd Tref Maes
Glas:
“Bydd cymryd rhan yn y prosiect FareShare o fudd enfawr i ni. Dechreuodd y
clwb cinio fel grwp bach iawn ychydig llai na dwy flynedd yn ôl a chyda cymorth
Cymunedau’n Gyntaf, rydym wedi tyfu’n grwp cymunedol llwyddiannus gyda
chyfartaledd o ddeg ar hugain o bobl yn dod atom ni’n rheolaidd. Byddwn yn
cynnig pryd poeth dau-gwrs a lluniaeth am bris rhesymol iawn, a bydd y bwyd a
gawn o’r cynllun hwn yn ein galluogi i ychwanegu at y prydau. Rydym yn
ddiolchgar iawn am y cyfle i gael cymryd rhan.”