Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathliadau ar gyfer Pen-blwydd Olive yn 103 oed
Published: 21/07/2016
Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu un o drigolion y Sir i ddathlu
pen-blwydd arbennig.
Mwynhaodd Olive Yates ei phen-blwydd yn 103 oed yng Nghartref Gofal Llys
Gwenffrwd yn Nhreffynnon ar 16 Gorffennaf, a daeth y Cynghorydd Peter Curtis i
ymweld â hi. Bu teulu a thrigolion Cartref Gofal Llys Gwenffrwd yn dathlu
pen-blwydd Mrs Yates gyda hi, a chawsant de prynhawn.
Ganwyd Mrs Yates ar 16 Gorffennaf 1913 yn Notty Ash yn Lerpwl ac roedd hin
unig blentyn. Pan ganed hi, roedd Brenin Siôr V ar yr orsedd ac ers hynny,
rydym wedi cael tri brenin arall ar Frenhines bresennol, a phan oedd hi’n
ferch ifanc, fe gyfarfu â hi.
Pan adawodd Mrs Yates yr ysgol, fe weithiodd mewn golchdy yn Lerpwl. Fe
gyfarfu â George a phriododd ym mis Awst 1936 pan oedd hi’n 23 mlwydd oed.
Gyrrwr tramiau oedd George, ac yn ddiweddarach, bu’n gyrru lorïau. Mae ganddi
ddau o blant George a Anne, 13 o wyrion ac wyresau a llawer o orwyrion a
gorwyresau.
Yn ystod yr 2il Ryfel Byd, bun gweithio yn y ffatri arfau yn Lerpwl, ac fel
llawer o bobl eraill, cafodd ei chartref ei fomio.
Symudodd i fyw i Dreffynnon 40 mlynedd yn ôl ac mae wedi bod yn hapus byth ers
hynny. Symudodd yn ddiweddar i Gartref Gofal Llys Gwenffrwd ar 6 Mehefin 2016.