Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae angen eich barn ar Foderneiddio Ysgolion
Published: 13/07/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i barhau i foderneiddio ysgolion y Sir i
sicrhau darpariaeth system addysg syn perfformion dda gan gynnig gwell
darpariaeth addysgu a mwy o gyfleoedd in preswylwyr ifanc.
Maer Cyngor bellach yn adolygur ddarpariaeth addysg yn y tair ysgol a ganlyn:
Ysgol Gynradd Brynffordd, Ysgol Gynradd Licswm ac Ysgol Rhos Helyg, Rhosesmor
ac eisiau annog pawb sydd â diddordeb i fynegi eu barn ar ba un o’r tri opsiwn
(a gytunwyd gyda chyrff llywodraethu pob un o’r 3 ysgol y llynedd) oedd yn well
ganddynt:
Opsiwn 1: Status Quo
Opsiwn 2: Ysgol Ardal ar Un Safle
Opsiwn 3: Cadw Ysgol Rhos Helyg, Rhosesmor ac un Ysgol Ardal ar un safle.
Maer cyngor yn awyddus i gyfarfod a thrafod safbwyntiau pawb sydd â diddordeb
ac eisoes wedi gweithion agos gyda disgyblion o bob ysgol i gael eu barn
gychwynnol.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint:
“Fel Cyngor blaengar a rhagweithiol, rydym am sicrhau bod darpariaeth addysg o
ansawdd uchel ac yn gynaliadwy. Maen bwysig bod gennym adeiladau ysgol a
chyfleusterau ysgolion or ansawdd uchaf wrth ddarparu’r nifer cywir o leoedd
yn y lleoliadau iawn. Yn y cyfnod hwn o ansicrwydd economaidd, mae angen i ni
gydnabod bod gwneud dim yn golygu cymarebau disgybl-athro uwch ledled y sir
wrth i arian leihau. Rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o
arian allanol trwy Raglen Ysgolion yr 21 Ganrif gan Lywodraeth Cymru.”
Dechreuodd ymgynghoriad anffurfiol ar yr opsiynau ar gyfer yr ardal ar 1
Gorffennaf a bydd yn para tan 5 Awst, 2016.
Aeth y Cynghorydd Bithell ymlaen i ddweud:
“Hoffair Cyngor gael eich barn a fydd yn cael ei gyflwyno, ynghyd âr holl
ddogfennau Gwerthuso Effaith (sydd ar gael iw gweld ar ein gwefan), i Gabinet
y Cyngor. Bydd y Cabinet yn ystyried eich safbwyntiau a’r dogfennau yn ofalus.
Gallwch roi eich ymatebion:
· Eu gosod yn y Blwch Post Moderneiddio Ysgolion yn eich ysgol
· Drwy lenwi holiadur ar-lein yn: https://www.surveymonkey.co.uk/r/ASRLBR
· Drwy lenwi ffurflen ymateb ai dychwelyd ir Tîm Moderneiddio Ysgolion,
Addysg ac Ieuenctid, Neuadd y Sir, yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 6ND; neu
· Fel arall, anfonwch eich ymatebion/cwestiynau yn ysgrifenedig at y Tîm
Moderneiddio Ysgolion, Addysg ac Ieuenctid, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y
Fflint, CH7 6ND neu e-bost: 21stcenturyschools@flintshire.gov.uk.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.siryfflint.gov.uk/moderneiddioysgolion