Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cymunedau’n cael budd o geginau newydd
Published: 15/07/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o
gontractwyr adeiladu er mwyn cynorthwyo i orffen y gwaith diweddaru sydd angen
ei wneud ar ein stoc dai.
Mae’r contractwyr yn gweithio ar Safon Ansawdd Tai Cymru sy’n safon
genedlaethol ar gyfer cartrefi a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ac mae’r
gwaith yn rhoi swyddi a phrentisiaethau i bobl leol.
Yn ogystal â hynny mae’n contractwyr wedi bod yn cynorthwyo cymunedau mewn
amrywiol ffyrdd.
Esiampl o ddarparu mantais gymunedol yn ddiweddar yw bod dau o’n contractwyr
wedi ail osod ceginau mewn nifer o ganolfannau cymunedol o fewn y sir.
Meddair Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
“Mae safon y gwaith sydd wedi cael ei wneud yn y lleoliadau hyn yn dda iawn ac
yn dangos crefftwaith safonol ar ei orau. Hoffwn ddiolch i’n dau gontractwr,
Novus Solutions’ a ‘Keepmoat’ – rydym yn gwerthfawrogi eu gwaith caled ac
rwy’n sicr y bydd y bobl sy’n defnyddio’r canolfannau’n rheolaidd yn hapus iawn
gyda’r adnoddau ar eu newydd wedd.”
Yn ddiweddar cyfrannodd a gosododd ‘Novus Solutions’ ddwy gegin mewn
Canolfannau Cymunedol yn Nhreffynnon – Llwyn Aled A Llwyn Beuno. Roedd hyn yn
cynnwys defnyddio lliwiau gwahanol yn unol â chanllawiau’r RNIB wrth baentio’r
ardaloedd cymunedol.
Meddai Gary Owen, Rheolwr Gweithrediadau yn ‘Novus’:
“Arbenigwyr cynnal a chadw eiddo yw ‘Novus Property Solutions’ a chysylltodd
Cyngor Sir y Fflint gyda ni er mwyn gwneud gwaith paentio a llorio yn ardal
Treffynnon. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar fod yn fusnes cyfrifol a gweini’r
gymuned ehangach. Rydym wedi gosod targed i’n hunain i newid 20,000 bywyd fel
rhan o’n hymgyrch Newid Bywydau ac rwy’n hynod falch o fod wedi cyfrannu a
gosod y ceginau hyn er budd y gymuned ac i wella’r adnoddau yn y canolfannau”.
Mae ‘Keepmoat’, arbenigwyr tai ac adfywio, yn adfywio eiddo er mwyn gwella
deilliannau economaidd a chymdeithasol i bobol. Yn ddiweddar fe wnaethant osod
cegin newydd yng Nghanolfan Gymunedol Aston.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint
ac aelod lleol Aston:
“Mae’r Ganolfan Gymunedol yn Aston yn cael ei defnyddio gan sawl grwp gwahanol
ac maen ganolbwynt i’r gymuned. Mae diweddaru’r gegin wedi bod yn welliant
sylweddol ac mae’r gymuned yn hynod o ddiolchgar i Keepmoat’ am y gwaith gwych
maent wedi ei wneud.
Meddai Frank Mondino, Cyfarwyddwr Ardal Keepmoat yn y Gogledd Orllewin:
“Rydym wrth ein boddau o allu gosod y gegin newydd hon y bydd yr holl gymuned
yn elwa ohoni am flynyddoedd i ddod.”
Mae rhaglen SATC yn golygu y dylai holl denantiaid Cymru gael y cyfle i fyw
mewn cartrefi o safon uchel sy’n cwrdd gofynion y cartref.
Mae Tîm Gwaith Cyfalaf Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am uwchraddio mewnol ac
allanol i bob eiddo gan y cyngor, gan gydymffurfio â SATC erbyn y flwyddyn
2020.
Meddai Tony Jones, Rheolwr Gwaith Cyfalaf:
“Dyma enghraifft arall o gontractwyr yn gweithio gyda’n tîm ni er mwyn darparu
adnoddau gwell i’r gymuned ehangach. Mae’r ceginau newydd yma’n ychwanegol i’r
ceginau yr ydym wedi eu gosod eisoes mewn cymunedau eraill fel Coppa View ym
Mwcle, Chapel Court yng Nghei Connah, a Hawksebury ym Mwcle. Mae contract SATC
yn ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr ddarparu Mantais Gymunedol fel rhan o’u
cytundeb.”
Cegin Canolfan Gymunedol Llwyn Aled, o’r chwith i’r dde: Gary Owen - Novus,
Cyng Peter Curtis, Ffion Smith - Novus, Tony Jones – Rheolwr Gwaith Cyfalaf
CSyFf, Jon Jones – Archwiliwr Contractau CSyFf ar Cyng Aaron Shotton.