Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Parc yn cael cerfiadau tywodfaen newydd
Published: 30/06/2016
Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, busnesau lleol, clybiau chwaraeon a
gwirfoddolwyr wedi dod ynghyd i ariannu cerfiadau tywodfaen newydd ym Mharc
Gwepra.
Mae’r 8 cerfiad yn darlunio dail o goed sydd i’w gweld yn y parc, ac maent yn
costio £300 yr un i’w gwneud au gosod. Maent nawr yn ffurfio llwybr ‘gwyllt-
ddail’ yn ardal chwarae’r parc.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros
yr Amgylchedd:
“Gwych yw bod Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint wedi gallu casglu’r arian i
noddi 8 o’r cerfiadau hyn gan fusnesau a chlybiau lleol. Fel cynrychiolydd ar
ran y Cyngor ac un o’r noddwyr hefyd, FC Nomads, hoffwn annog pawb i ddod am
dro i’r parc i weld yr ychwanegiadau trawiadol diweddar.”
Dywedodd Tim Johnson, Ceidwad Cefn Gwlad i Gyngor Sir y Fflint:
“Roeddem wedi llwyddo i gael cyllid gan saith ffynhonnell leol wahanol a hoffwn
ddiolch i bob un ohonynt am eu cefnogaeth. Bydd y cerfiadau tywodfaen hyn o
ddail yn galluogi plant i weld y dail yn agos ac yn fanwl, a gobeithio y bydd
hyn yn eu hannog i anturio drwyr lle chwarae a’r parc yn gyffredinol.”
Mae gan bob cerfiad noddwr penodol: Y Contractwr Gwaith Daear a Ffensio, Arwyn
Parry; FC Nomads; Old Hall Café; Cyfeillion Parc Gwepra; Garnett-Hughes; Gwely
a Brecwast Oakenholt Farm a Chontractwyr Gwaith Daear a Ffeiriau Bach Sharland
Brothers. Noddodd Harry Sharland ail garreg hefyd, er cof am Brian Allsopp a
oedd yn un or rhai a sefydlodd Wyl Glannau Dyfrdwy ym Mharc Gwepra, a daeth â
chymaint ir ardal a’r gymuned. Bu farw Brian yn 1990 tra roedd yn perfformio
ym mharêd yr wyl.
Dangosodd astudiaeth ddiweddar, a oedd yn edrych ar gelf yn y parc ac a
gomisiynwyd gan Gyfeillion Parc Gwepra a’r Gwasanaeth Cefn Gwlad, fod lle i
annog celf o bob math. Gallai hyn ymestyn o gerflun i ddawns a chân a gallai
gynrychioli themâu lleol a chenedlaethol. Mae’r prosiect hwn yn gam cychwyn
tuag at hynny.
O’r chwith i’r dde: Y Cyng. Ian Dunbar, Cyfeillion Parc Gwepra; Les a Jennifer
Hulme, Gwely a Brecwast Oakenholt Farm; Marion Lockwood, Old Hall Café; Tim
Johnson, Cyngor Sir y Fflint; Mary Caveill, Old Hall Café; Harry Sharland,
Sharland Funfairs; Jenny Eccles, Cyfeillion Parc Gwepra ac Arwyn Parry