Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Chwifior Faner ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog
Published: 22/06/2016
Ddydd Llun 20 Mehefin, cafodd Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Peter Curtis,
gwmni’r Arglwydd Raglaw Harry George Fetherstonhaugh OBE LL, ar Cynghorydd
Andy Dunbobbin, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor, wrth godi baner Diwrnod y
Lluoedd Arfog.
Mae Dydd Sadwrn 25 Mehefin yn nodi wythfed Diwrnod y Lluoedd Arfog Cenedlaethol
ac yn rhoi cyfle i sefydliadau ac unigolion ddangos eu cefnogaeth i aelodau a
chyn aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Curtis:
“Rwyn falch bod Cyngor Sir y Fflint yn ymuno â sefydliadau cyhoeddus eraill
ledled Cymru ar DU i chwifior faner ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog. Maen
bwysig ein bod yn ymuno ân gilydd ac yn dangos y gwerth a roddwn ar ein
lluoedd arfog, y gwaith y maent yn ei wneud ar aberthau a wnânt.
“Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn annog pobl i #SaliwtioEinLluoedd, a byddwn yn
annog trigolion Sir y Fflint i fynd i’r wefan
https://www.armedforcesday.org.uk/get-involved/saluteourforces/ a chymryd
rhan.”
Bydd y faner yn chwifio yn Neuadd y Sir rhwng dydd Llun 20 a dydd Sadwrn 25
Mehefin.