Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathliadau pen-blwydd yn 100 oed!
Published: 23/06/2016
Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu dau o drigolion Sir y Fflint i
ddathlu pen-blwydd arbennig trwy ymweld â hwy dydd Iau 16 Mehefin.
Ganwyd Mrs Gwen Prior ar 7 Mehefin 1916 yn Queensferry ac astudiodd ei thad yn
Eaton. Bu Mrs. Prior yn gweithio yn Courtaulds, yna gweithiodd yn John Summer
yn ystod y rhyfel ac roedd ei gwr dramor. Roedd hin briod â Bob Prior a oedd
yn y llu awyr a bu’n gweithio dramor am flynyddoedd lawer.
Mae ganddi ddau o blant, Norma a Valerie, pedwar o wyrion a gor-wyr.
Roedd hin arfer mwynhau gwau, mae hi wrth ei bodd yn darllen a phan oedd hi’n
iau roedd hi wrth ei bodd yn mynd i’r arfordir gydai gwr.
Ganwyd Mrs Lily Hutchinson ar 16 Mehefin 1916 ym Mwcle, yn un o bump o blant, a
chafodd blentyndod hapus yn byw ac yn chwarae gyda ffrindiau yn y trap.
Bun gweithio yn ffatri Courtaulds a chyfarfu â’i gwr, George Hutchinson.
Priododd y ddau ym 1940 a chafodd dri o blant, George Phillip, Dennis a
Malcolm. Yn anffodus bu farw George Phillip yn ystod babandod a bu farw
Malcolm yn 2009. Dennis ywr Cynghorydd Sir dros Pentrobin Bwcle.
Mae ganddi bum wyrion a deg o or-wyrion.
Mae Lily yn deyrngarwr mawr ac wedi bod yn gefnogwr mawr or Frenhines ar fam
Frenhines ar hyd ei hoes.
Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Peter Curtis, ai wraig ai
Gydymaith, Jenny, gyda Gwen Prior
Or chwith ir dde: Maer Bwcle, Cynghorydd Andrew Williams, Mrs. Jeanne
Hutchinson (gwraig Dennis), Mrs. Jennifer Curtis, Consort Cyngor Sir y Fflint,
y Cyng. Peter Curtis, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cyng. Dennis Hutchinson
(yn penlinio wrth ymyl Mrs Lily Hutchinson) a Mrs. Joan Hutchinson (gwraig
Malcolm).