Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Maen amser Jambori Gorffennaf!
Published: 05/07/2016
Yn ddiweddar, cynhaliodd y Tîm Ymgynghorol y Gymraeg Sir y Fflint eu sioe gerdd
Jambori pedwar diwrnod ar gyfer plant Blwyddyn 1 a 2.
Roedd tua 2,500 o blant Sir y Fflint yn bresennol yn ystod y pedwar diwrnod a
chomisiynwyd y cyflwynydd S4C a’r diddanwr Martyn Geraint i lwyfannu wyth
perfformiad.
Cynhaliwyd y Jambori yn Neuadd Ddinesig Cei Connah, ac fe hoffai’r tîm ddiolch
i Gyngor y Dref am eu cefnogaeth barhaus.
Dechreuodd y paratoadau yn gynnar ym mis Mehefin, a bu’r plant yn brysur yn
dysgu caneuon er mwyn iddynt allu canu’n Gymraeg gyda Martyn Geraint.
Derbyniodd pob ysgol CD or caneuon.
Mae Martyn Geraint wedi meithrin enw da fel un o ddiddanwyr mwyaf blaenllaw
Cymru gyda gallu naturiol i ysbrydoli plant.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint:
“Maer digwyddiad hwn bob amser yn gyfle gwych i gael ychydig o hwyl wrth wella
sgiliau iaith y plant. Mae defnyddio cerddoriaeth fel arf dysgu yn brofiad
positif iawn ar gyfer y plant ac mae’n ychwanegu dimensiwn ychwanegol at eu
gwersi Cymraeg.”