Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyfraddau casglu Treth y Cyngor
Published: 22/06/2016
Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos mai Cyngor Sir y
Fflint, gyda chefnogaeth ei drigolion, ywr Cyngor syn perfformio orau o ran
casglu Treth y Cyngor.
Yn y flwyddyn ariannol 2015-16, casglodd y Cyngor 98.0% o Dreth y Cyngor
dyledus yn ystod y flwyddyn. Mae hyn yn 0.8%, sy’n uwch nar cyfartaledd
cenedlaethol o 97.2%. Mae hyn yn golygu mai Sir y Fflint yw’r Cyngor sy’n
perfformio orau yng Nghymru. Y ffigwr casglu hwn yw hefyd y lefel casglu uchaf
a gyflawnwyd gan Sir y Fflint ers y cyflwynwyd Treth y Cyngor.
Mae hefyd yn dangos, er gwaethaf yr heriau ariannol a wynebir gan y Cyngor i
reoli gostyngiadau mawr yn y grantiau a dderbyniwyd gan y Llywodraeth Ganolog,
rydym yn parhau i wellar ffordd rydym yn gweithredu, trwy ei gwneud yn haws i
drigolion dalu eu biliau a chael mynediad in gwasanaethau. Er enghraifft, mae
dros 86% o drigolion Sir y Fflint yn talu eu Treth y Cyngor drwy ddebyd
uniongyrchol misol neu wythnosol.
Wrth sôn am y cyhoeddiad, dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y
Cyngor:
“Fel rhan or Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, maer Cyngor yn gweithion
ddiflino i ateb yr heriau ariannol ac rydym yn parhau i amlinellu cynlluniau a
datrysiadau i ymdopi gyda llai o adnoddau. I gwrdd â phwysau o ran costau yn y
dyfodol, mae casglu Treth y Cyngor yn effeithiol mor bwysig i gyllid y Cyngor,
felly maen newyddion da i weld mai Sir y Fflint ywr Cyngor sy’n perfformio
orau pan ddaw i gasglu trethi lleol.
“Rydym ni hefyd yn cydnabod y gall rhai teuluoedd ei chael hi’n anodd talu, ac
rydym nin annog unrhyw un syn cael trafferth talu i gysylltu’n gynnar â’r
Gwasanaeth Treth y Cyngor ar 01352 704848 fel y gallwn ni ddarparu cymorth ac
arweiniad ymarferol ar y ffordd orau o dalu”.