Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Hyder yn yr hyn rydym yn ei fwyta
Published: 16/06/2016
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo Cynllun Gwasanaeth Bwyd
2016-17 y sir pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth, 21 Mehefin.
Maer cynllun wedi cael ei gynhyrchu gan swyddogion o’r Tîm Diogelwch Bwyd a
Safonau ac maen nodi sut y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn y flwyddyn
ariannol hon a hefyd yn adolygu perfformiad yn ystod y flwyddyn ariannol
ddiwethaf.
Maer Cynllun Gwasanaeth Bwyd yn cwmpasu diogelwch bwyd (gorfodi diogelwch bwyd
a deddfwriaeth hylendid bwyd yn yr holl sefydliadau bwyd yn y sir, safonau bwyd
(gwirio sefydliadau ac ymdrin â chwynion) a bwydo (ymweliadau i safleoedd
bwydo, yn darparu gwybodaeth a delio â chwynion).
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer
Gwarchod y Cyhoedd:
Drwy gymeradwyo Cynllun Gwasanaeth Bwyd eleni, bydd y Cabinet yn sicrhau bod y
safonau diogelwch bwyd uchel a hylendid a sefydlwyd eisoes o fewn y sir yn
parhau. Mae ein tîm Diogelwch Bwyd a Safonau yn gweithion hynod o galed i
sicrhau y gall trigolion Sir y Fflint fod yn hyderus o lefel uchel o hylendid
pan mae bwyd dan sylw. Maer Cynllun yn dilyn yr egwyddor fferm i fforc i
sicrhau bod bwyd yn ddiogel iw fwyta.