Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adolygu swyddogaethau gweinyddol corfforaethol
Published: 16/06/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithion galed i leihau costau
biwrocratiaeth a chefnogaeth weinyddol drwy adolygiad oi swyddogaethau
gweinyddol corfforaethol sydd hyd yn hyn wedi gwireddu arbedion o tua £1m.
Bydd cam terfynol yr adolygiad yn gweld un tîm newydd yn cael ei greu yn cymryd
cyfrifoldeb am ystod o swyddogaethau gweinyddol megis ymholiadau cwsmeriaid a
cheisiadau am wasanaeth, Derbynfa, cynnal a chadw cronfeydd data gwybodaeth
syn seiliedig ar wasanaeth, trefnu hyfforddiant a chefnogaeth, gwasanaethau
cyfieithu a swyddogaethau cefnogi swyddfa cyffredinol.
Meddair Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
Maer cyngor wedi bod yn gweithio am rai blynyddoedd i newid ei brosesau a’i
strwythurau er mwyn lleihau biwrocratiaeth a chostau swyddfa gefn. Maer
adolygiad hwn wedi ei gynllunio o amgylch anghenion y Cyngor yn awr ac yn y
dyfodol, gan gydnabod bod angen addasu ac ail-lunio swyddogaethau cefnogi
craidd ochr yn ochr â strategaeth ariannol tymor canolig ehangach y Cyngor.
Mae hon wedi bod yn broses drylwyr a theg gan gydbwyso arbedion ac
effeithlonrwydd angenrheidiol mewn gwasanaethau cefnogi a oedd angen cael eu
cyflwyno i helpu i gynnal gwasanaethau rheng flaen hanfodol ir cyhoedd tran
diogelu cymaint o swyddi ag y bo modd.
Byddwn yn monitro effaith y newidiadau hyn dros y 12 mis nesaf gydar bwriad o
nodi arbedion posibl pellach.
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried adroddiad ar gynnydd yr adolygiad
gweinyddol corfforaethol mewn cyfarfod ddydd Mawrth, 21 Mehefin.