Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adolygiad Cludiant Ysgol
Published: 16/06/2016
Bydd y Cabinet yn ystyried adroddiad gwybodaeth a diweddaru yn nodi
argymhellion Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid y Cyngor ar
gludiant ysgol pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth, 21 Mehefin.
Maer Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid wedi adolygu canfyddiadau
ei Grwp Tasg a Gorffen ar gludiant ysgol ac yn argymell bod y Cabinet yn
cymeradwyo eu hargymhellion. Maer grwp Tasg a Gorffen ei hun yn ystyried
adroddiad gan ymgynghorwyr annibynnol a allai fod wedi gweld, mewn rhai
achosion, cael gwared ar gludiant dewisol am ddim a chynnydd mewn ffioedd
cludiant ar gyfer pobl eraill.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir y Fflint:
Bydd y Cabinet yn derbyn adroddiad gwybodaeth byr yn diweddaru ar yr
ystyriaethau Grwp Tasg a Gorffen Pwyllgor Craffu yn ystyried y ddarpariaeth
cludiant addysg yn y Sir.
Maen bwysig i gadarnhau a sicrhau cymunedau nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o
bryd i newid polisi cludiant.