Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathliadau pen-blwydd Esther yn 100 oed!
Published: 20/06/2016
Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint wedi helpu un o drigolion Sir y Fflint i
ddathlu pen-blwydd arbennig.
Mwynhaodd Esther Critchley ei phen-blwydd yn 100 oed yng Nghartref Gofal
Preswyl Croes Atti yn y Fflint gydag ymweliad gan y Cynghorydd Peter Curtis.
Ganwyd Esther yn Fferm Mynydd Pen Ucha, Sychdyn ar 13 Mehefin 1916. Yn ferch
canol i John a Mary Morrison, fe fynychodd Ysgol Sychdyn cyn ennill
ysgoloriaeth i Ysgol Ramadeg yr Wyddgrug (yr Alyn).
Ar ôl gadael yr ysgol yn 14 oed, aeth Esther i wasanaethu yn Southport am 3
blynedd, ac yna aeth i Bontblyddyn ac yna i Neuadd Cornist yn y Fflint i
weithio ir teulu Summers.
Priododd Ralph Blackwell yn Ebrill 1940 cyn mynd i weithio i Dr Ross yn y
Fflint, a chafodd ei merch Maureen ei geni ym 1944.
Un uchafbwynt ym mywyd Esther oedd cyfarfod y Frenhines ym 1953 a oedd yn
ymweld â Phafiliwn yr Eisteddfod yn y Rhyl ar ran y wladwriaeth. Doedd hi ddim
yn meddwl bryd hynny y byddain cael cerdyn gan y Frenhines ar ei Phen-blwydd
yn 100 oed!
Bu farw ei gwr cyntaf ym 1988 ac fe briododd Donald Critchley ym 1992, gan
hedfan dramor am y tro cyntaf yn ei bywyd i fynd ar wyliau. Roedd Esther yn byw
yn Sychdyn gydol ei hoes tan 2009, pan aeth i fyw yng Nghroes Atti lle mae hi
wedi bod yn hapus ac yn derbyn gofal da ers hynny.
Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Peter Curtis, gyda Esther
Critchley.