Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gorfodaeth Gwastraff Ochr ac Ymwybyddiaeth Amgylcheddol
Published: 07/07/2021
Pan y byddant yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn, bydd gofyn i aelodau’r Cabinet gymeradwyo ailgyflwyno gorfodaeth gwastraff ochr ar gasgliadau ymyl palmant ar gyfer gwastraff gweddilliol ym mis Medi 2021.
O fis Mawrth 2020, ataliwyd gorfodaeth gwastraff ochr oherwydd Covid-19. Ers hynny, mae’r Cyngor wedi casglu dros 3,000 o dunelli ychwanegol o wastraff gweddilliol o dai preswyl - cynnydd o 12% o’i gymharu â llynedd. Oherwydd targedau ailgylchu cenedlaethol llym wedi eu gosod gan Lywodraeth Cymru, ni all y dirywiad yma mewn perfformiad parhau.
Mae hefyd pryder cynyddol ynglyn â thipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel ynghyd â materion amgylcheddol eraill.
Er mwyn mynd i’r afael â’r materion pwysig yma, mae Sir y Fflint eisiau ailgyflwyno gorfodaeth gwastraff ochr ac ymdrin â’r cynnydd mewn troseddau amgylcheddol i geisio lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwella Ansawdd yr Amgylchedd Lleol (LEQ).
Dylai fod digon o le i aelwydydd allu rhoi eu gwastraff gweddilliol (h.y. gwastraff na ellir ei ailgylchu) yn eu bin olwynion. Mae casgliadau ailgylchu pob wythnos, a nid oes cyfyngiad ar faint o ailgylchu y gall preswylwyr eu rhoi allan i’w casglu.
Mae yna leiafrif o aelwydydd nad ydynt yn gwneud defnydd o’r gwasanaeth ailgylchu, ac nid yw hyn yn dderbyniol am sawl rheswm, gan gynnwys:
• Y problemau amgylcheddol y mae gwastraff ochr yn ei achosi pan mae bagiau yn torri a’r sbwriel yn gwasgaru ar hyd y strydoedd;
• Y golled o adnoddau gwerthfawr a all gael eu hailgylchu i greu cynnyrch newydd;
• Y gost ariannol o waredu gwastraff gweddilliol a’r golled posib o incwm wrth werthu deunyddiau ailgylchadwy.
Dywedodd Y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd Sir y Fflint:
“Mae’r broses gorfodaeth ar gyfer gwastraff ochr yn dilyn dull tri cham, gyda’r pwyslais cychwynnol ar hysbysu ac addysgu preswylwyr o’r ffordd gywir i gyflwyno eu gwastraff a’u hailgylchu. Os nad oes gwelliant i’w weld ar ôl y cam cyntaf, yna cymerir camau ffurfiol am barhau i beidio â chydymffurfio.
“Mae tystiolaeth wedi dangos i ni fod y cam addysgu yn cael effaith arwyddocaol ar warediad gwastraff preswylwyr. Rydyn ni felly yn cynnig ein bod yn ystyried opsiynau ar gyfer rôl ddynodedig i drefnu a chynnal ymgyrchoedd gwella’r amgylchedd o fewn cymunedau lleol.”
Cyn ailgyflwyno unrhyw orfodaeth gwastraff ochr, bydd ymgyrch yn cael ei chynnal ar draws y sir er mwyn hysbysu preswylwyr.